‘Y farchnad rydd’ yw craidd yr argyfwng tai yng Nghymru heddiw, yn ôl Cymdeithas yr Iaith, yn eu datganiad swyddogol ar gyfer rali yng Nghaerdydd y pnawn yma (dydd Sadwrn, 13 Tachwedd).

Gall fod llawer o wir mewn dadansoddiad o’r fath, a gallai fod yn gyfraniad digon adeiladol mewn trafodaeth ddeallusol am y problemau sy’n wynebu’r byd heddiw.

Ond os am geisio atebion ymarferol a chyflym i’r dadleoli diwylliannol sy’n digwydd o flaen ein trwynau yng nghadarnleoedd y Gymraeg heddiw, dydi meddylfryd o’r fath yn dda i ddim.

Dydi cael gwared ar y farchnad rydd ddim yn agos o fod o fewn grymoedd Senedd Cymru; hyd yn oed pe bai Cymru’n annibynnol, ni fyddai mewn sefyllfa i gyflawni newidiadau mor chwyldroadol.

A’r drwg ydi bod pregethu syniadau afrealistig o’r fath – waeth pa mor ddelfrydgar y gallan nhw fod – yn tynnu’r pwyslais oddi ar y camau y gellir eu cymryd ar unwaith i geisio lliniaru’r argyfwng presennol.

Yn yr un modd, mae honni bod ‘tai haf’ yn broblem ledled Cymru hefyd yn tynnu sylw oddi ddifrifoldeb y sefyllfa yn yr ardaloedd sy’n cael eu taro waethaf ac oblygiadau hynny i’r Gymraeg.

Diddorol gweld bod o leiaf un o’r siaradwyr yn y rali heddiw eisoes wedi mynegi barn gwbl groes ar goedd i ddatganiadau trefnwyr y digwyddiad, ac roedd yn llygad ei le i wneud hynny.

Effaith gor-dwristiaeth

Gadewch inni’n hatgoffa’n hunain o’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad.

Mae rhai o ardaloedd harddaf Cymru’n cael eu difetha gan or-dwristiaeth a hynny’n arwain at brisiau hollol wirion am dai. Mae’r ardaloedd hyn yn cynnwys rhai o gadarnleoedd pwysicaf a gwerthfawrocaf y Gymraeg, gyda lleoedd fel Eryri a Llŷn yn wynebu’r goresgyniad Seisnig mwyaf yn eu hanes. Mae’n arwain at Gymry’n methu fforddio byw yn eu cynefin, gan beri bygythiad difrifol i hyfywedd y Gymraeg fel iaith gymunedol.

Mae’r argyfwng diwylliannol hwn yn gofyn am sylw a phwyslais penodol. Does neb yn dadlau mai trigolion y cadarnleoedd hyn ydi’r unig rai sy’n dioddef, ond ffolineb ydi honni mai’r un ffactorau sydd ar waith mewn rhannau eraill o Gymru.

Ydi, mae’r prisiau sy’n cael eu talu am ail gartrefi mewn ambell le fel Abersoch neu Drefdraeth neu Rhosneigr yn gwbl anfoesol. Ond dydi’r nifer cymharol fach o ardaloedd fel hyn ddim yn agos ddigon i gael effaith arwyddocaol ar brisiau tai ledled Cymru yn gyffredinol.

Yng Nghymru, fel yng ngweddill Prydain, mae prisiau tai wedi saethu i fyny am gyfuniad cymhleth o resymau economaidd a chymdeithasol.

Mae’n sicr fod ardaloedd fel Caerdydd, Gwent a Wrecsam yn wynebu problemau tai, fel y dywed Aelod Dwyfor Meirionnydd o’r Senedd. Ar y llaw arall, mae gan yr hyn sy’n digwydd yn ei etholeth o fwy yn gyffredin â phroblemau lleoedd fel Dyfnaint a Chernyw ac Ardal y Llynnoedd na’r ardaloedd diwydiannol hyn.

Camau i’w cymryd ar frys

Gall pawb ohonom gytuno mewn egwyddor ag ysbryd datganiad Cymdeithas yr Iaith ‘nad yw’n iawn bod yna rai gyda mwy nag un tŷ, tra bod eraill yn ddigartref’.

Ar yr un pryd mae angen gweithredu ar unwaith o fewn cyfyngiadau’r byd amherffaith rydym yn byw ynddo.

Dyma’r math o fesurau sydd angen canolbwyntio arnyn nhw ar hyn o bryd:

  • Hawl ac adnoddau i gynghorau ymyrryd yn y farchnad dai:
    • Galluogi cynghorau i fenthyg arian i fuddsoddi mewn tai ar y farchnad agored
    • Fel ateb tymor byr, cynghorau i rentu tai gan berchnogion eiddo am brisiau mor rhesymol ag sy’n realistig, a’r cynghorau wedyn yn eu gosod i bobl leol
    • Galluogi cynghorau i gynnig gwarant morgais i alluogi pobl leol i fenthyg symiau uwch
  • Cynghorau a Llywodraeth Cymru’n rhoi anogaeth arbennig i’w gweithwyr Cymraeg eu hiaith weithio o’u cartrefi yn yr ardaloedd sydd dan warchae
  • Mynd i’r afael â gor-dwristiaeth. Tra bydd gor-dwristiaeth mi fydd problem ail gartrefi’n parhau a gwaethygu.
    • Mynnu rhagdybiaeth yn erbyn mwy o lety ac atyniadau gwyliau, gan gyfyngu unrhyw gefnogaeth i ddatblygiadau cynaliadwy sydd yn nwylo pobl leol.
    • Gosod uchafswm ar dai y gellid eu gosod fel llety gwyliau, ac atal unrhyw berchnogion ail gartrefi rhag unrhyw driciau i osgoi treth cyngor.
  • Codi ymwybyddiaeth gyffredinol yn Lloegr o’r teimladau cryf am yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg. Ymhlyg â hyn gallai fod awgrym clir nad oes croeso diamod i bobl symud i fyw yma – fel sy’n dechrau dod yn hysbys i raddau yn achos Cernyw.

 Cadw eiddo yn nwylo Cymry

Beth bynnag ydi’n barn am anghyfiawnder ail gartrefi, blaenoriaeth lawn mor bwysig ydi sicrhau bod hynny ag sy’n bosibl o eiddo yn ein cadarnleoedd Cymraeg yn aros yn nwylo Cymry.

Dyna pam fod beirniadu Cymry sy’n berchen ail gartrefi, fel mae rhai elfennau o Gymdeithas yr Iaith wedi’i wneud yn ddiweddar, yn gwbl anghyfrifol. Y peth olaf sydd ei eisiau ydi gadael i ryw fath o gywilydd cymdeithasol ein dal yn ôl rhag mynd ati ym mhob dull a modd i ddal gafael ar ein hetifeddiaeth.

Fyddai neb, wrth gwrs, yn cyfiawnhau sefyllfa lle byddai teulu lleol yn cael eu hamddifadu’n uniongyrchol o dŷ gan Gymry cyfoethog yn cynnig pris uwch i’w ddefnyddio fel lle gwyliau yn unig.

Yr hyn sy’n rhaid ei ddeall, fodd bynnag, ydi bod llawer mwy o sefyllfaoedd llai simplistig, fel brodorion sydd wedi symud o’r ardal yn etifeddu eu hen gartref, ac yn dewis dal gafael arno gyda bwriad efallai o ddychwelyd rhyw ddydd.

Dim ond yr ideolegwyr mwyaf haearnaidd a phoenus o wleidyddol gywir fyddai’n dadlau y byddai’n well ganddyn nhw weld tai o’r fath yn mynd yn gartrefi i bobl o Birmingham.

Yn anffodus, dydi o ddim yn realistig chwaith i ddisgwyl i berchnogion fel hyn werthu i bobl leol am ddegau o filoedd llai na phris y farchnad. A dydi gosod tŷ ar rent cymdeithasol ddim yn ddewis ymarferol iawn i bobl heb y profiad a’r adnoddau i wneud hynny.

Ar ben hyn, beth am achosion lle mae pobl yn treulio cryn dipyn o’u hamser yn gweithio o dŷ yng nghefn gwlad, ond fod ganddyn nhw dŷ arall neu fflat mewn dinas?

Byddai gweld mwy o Gymry’n gallu gwneud hynny yn hwb anferthol i’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn ei chadarnleoedd. Ar y llaw arall byddai symudiad anferth o ddinasoedd Lloegr i gefn gwlad yn fygythiad difrifol i hunaniaeth a chymeriad yr ardaloedd hynny.

Yn y pen draw, does dim dianc rhag y ffaith mai brwydr ddiwylliannol ydi parhad y Gymraeg yn ei chadarnleoedd. Dydi ceisio ei chymysgu â syniadau hen ffasiwn am ryfel dosbarth yn gwneud dim ond ei chymhlethu a’i glastwreiddio.