Mae Gwyn Howells, Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru, wedi cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad i’r diwydiant.

Mae’r gŵr o Bonterwyd wedi derbyn Cymrodoriaeth gan y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol mewn seremoni ar Faes y Sioe yn Llanelwedd.

Mae e wedi chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu brandiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, a chynyddu gwerth allforion cig coch Cymru i £200m y flwyddyn.

Hefyd, mae e wedi gweithio â’r sefydliad i geisio gwella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd ar draws y gadwyn cyflenwi cig.

‘Anrhydedd’

Daw Gwyn Howells yn wreiddiol o Bonterwyd, Ceredigion, ac fe gafodd ei fagu ar fferm ddefaid yno.

Ar ôl graddio o Brifysgol Bangor, fe ddechreuodd weithio gyda’r Comisiwn Cig Da a Byw, cyn dod yn Brif Weithredwr gyda Hybu Cig Cymru yn 2003.

“Mae’n anrhydedd derbyn y wobr hon gan y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru,” meddai.

“Maen nhw a chymdeithasau amaethyddol eraill yn chwarae rhan mor hanfodol o ran bwyd a ffermio, ac economi a chymdeithas ehangach cefn gwlad.

“Mae’r wobr yn gydnabyddiaeth o waith cyfunol Hybu Cig Cymru a’r gadwyn gyflenwi gyfan.”

‘Storm a hindda’

“Mewn 35 mlynedd o weithio yn y diwydiant hwn, gwelais storm a hindda; yn ddiweddar bu’n rhaid i Hybu Cig Cymru a’r sector ehangach ymateb yn ystwyth a chreadigol i heriau Brexit a Covid,” meddai Gwyn Howells.

“Cawsom gefnogaeth wych gan ddefnyddwyr gartref a thramor.

“Mae Hybu Cig Cymru wastad wedi ceisio gwneud ei orau glas i’w dalwyr ardoll, ac wrth wneud hynny helpodd i gefnogi diwydiant sy’n sail i economi a diwylliant cefn gwlad Cymru.

“Gobeithio y bydd yn parhau felly am genedlaethau i ddod.

“Wrth i’r sector cig coch yng Nghymru edrych tua’r dyfodol, bydd yn wynebu heriau, wrth gwrs, ond rydym hefyd mewn sefyllfa dda i ateb gofynion y defnyddiwr modern – cynnyrch o ansawdd y gellir ei olrhain bob cam o’r daith ac a gynhyrchwyd yn ôl y safonau gorau o ran lles a chynaliadwyedd amgylcheddol.”