Mae prosiect newydd wedi ei sefydlu er mwyn plannu coed a gwrychoedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Bydd Awdurdod y Parc a Choed Cadw yn cydweithredu ar y prosiect a bydd y gwaith yn dechrau ym mis Hydref eleni.

Maen nhw’n gwneud hyn yn bennaf i liniaru effeithiau newid hinsawdd o fewn y parc, sy’n cynnwys rhwystro llifogydd ac amddiffyn ecosystemau.

Y nod yw plannu 8,000 o goed ac 1,800 metr o wrychoedd ar draws cymunedau’r parc – sy’n ymestyn o Feddgelert i Aberdyfi.

Mae’r cynllun hefyd wedi cael ei noddi gan y Loteri Cod Post, sydd wedi darparu cyllid o £25,000 tuag at y gwaith.

Dywedodd Rhys Owen, Pennaeth Cadwraeth, Coed ac Amaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol, y bydd y prosiect yn fuddiol mewn sawl ffordd.

“Yn ogystal â’r buddion amlwg i’r amgylchedd a bioamrywiaeth, bydd y cynllun hwn yn dod â buddion amaethyddol hefyd trwy greu terfynau caeau cadarn a dibynadwy yn ogystal â chysgod hanfodol i anifeiliaid fferm,” meddai.

“Bydd plannu mwy o goed y tu allan i goedlannau yn ne’r Parc Cenedlaethol hefyd yn diogelu’r dirwedd goediog sy’n nodweddiadol o’r ardal, ac sydd wedi ysbrydoli a denu ymwelwyr ar hyd y blynyddoedd.”