Mae UNESCO wedi cadarnhau bod cynnig ardaloedd llechi Gwynedd i ddod yn Safle Treftadaeth y Byd wedi ei gymeradwyo.

Fe dderbyniodd yr ardal y statws yn ystod cyfarfod Pwyllgor Treftadaeth y Byd a oedd yn trafod y cais heddiw.

Roedd y cais gwreiddiol wedi ei gynnig yn 2019 gyda chefnogaeth gan Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig, yn ogystal â thrigolion lleol.

Mae nhw’n ymuno â safleoedd fel y Taj Mahal, Grand Canyon a Macchu Picchu, sydd eisoes â’r statws pwysig hwn.

Bydd tirweddau llechi ym Methesda, Blaenau Ffestiniog a Llanberis ymysg yr ardaloedd sy’n rhan o’r safle ehangach.

Dyma fydd y pedwerydd Safle Treftadaeth yng Nghymru ar ôl Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, a Chestyll a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd.

Mewn trydariad yn cadarnhau’r cyhoeddiad, dywedodd UNESCO bod y statws yn “cydnabod 1,800 o flynyddoedd o gloddio llechi, y bobl, diwylliant ac iaith”, yn ogystal â sut wnaeth y dirwedd “roi to ar y 19eg ganrif.”

‘Enghraifft ragorol o dirwedd’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad gan UNESCO, fe anerchodd Dafydd Wigley, Cadeirydd Grŵp Llywio Partneriaeth Llechi Cymru, y pwyllgor swyddogol gan “ddiolch o galon” am y penderfyniad.

“Mae Cyngor Gwynedd wedi gweithio ar y prosiect hwn am dros ddeng mlynedd, a fyswn i’n hoffi cydnabod cyfraniad ein holl bartneriaid strategaethol, ein cymunedau a busnesau, sydd wedi rhoi cymaint o gefnogaeth a chryfder i’r cais,” meddai.

“Yma yng Ngwynedd, mae gennyn ni enghraifft ragorol o dirwedd gyflawn sy’n arddangos pob elfen o ddiwydiant – yn weladwy ac yn ddarllenadwy.

“Mae gan lechi Cymreig gysylltiadau byd-eang a gellir eu gweld ar adeiladau crand a chartrefi cyffredin ledled y byd.

“Roedd yn ddeunydd allforio arwyddocaol yn ei anterth, ac mae’n dal i gael ei allforio ac yn parhau i fod yn gyflogwr pwysig.”

‘Testun balchder’

“Mae arysgrifio ein tirwedd llechi fel safle treftadaeth y byd heddiw yn destun balchder mawr i’n cymunedau yma yng ngogledd orllewin Cymru,” ychwanegodd Dafydd Wigley.

“Mae’n gydnabyddiaeth ac yn ddathliad o’n cyfraniad diwylliannol i’r byd. I dirwedd y meddwl.

“Ac rydym yn ymrwymo i gydweithredu i reoli’r safle.

“Rydym yn cydnabod mai dim ond dechrau ein taith gydag UNESCO yw hyn, ac edrychwn ymlaen at fod yn rhan o’r gymuned fyd-eang ehangach o safleoedd treftadaeth y byd.

“Rydym yn barod i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd treftadaeth y byd nid yn unig yn lleol ond ymhellach i ffwrdd.

“A byddwn yn defnyddio’r arysgrif hwn i gefnogi ein cymunedau a’n busnesau a chroesawu pobl o bob cornel o’r byd.

“Mae’r arysgrif hwn yn cydnabod ein harwyddocâd byd-eang trwy allforio cynnyrch, pobl, gwerthoedd a thechnoleg pobl.”

Ymateb y Prif Weinidog

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi llongyfarch pawb a fu’n gweithio’n galed ar y cais.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn cydnabod y cyfraniad sylweddol mae’r rhan hon o Ogledd Cymru wedi’i wneud i dreftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol nid yn unig Cymru, ond y byd yn ehangach,” meddai.

“Mae chwareli a chloddio llechi wedi gadael etifeddiaeth unigryw yng Ngwynedd ac mae’r cymunedau’n falch iawn o hynny.

“Bydd y gydnabyddiaeth fyd-eang hon heddiw gan UNESCO, yn helpu i warchod yr etifeddiaeth a’r hanes hwnnw yn y cymunedau hynny am genedlaethau i ddod a’u helpu gydag adfywio yn y dyfodol.

“Hoffwn ddiolch a llongyfarch pawb sydd wedi gweithio mor galed ar y cais hwn – mae wedi bod yn ymdrech tîm go iawn ac mae’r cyhoeddiad heddiw yn glod i bawb sy’n gysylltiedig.”

‘Datblygiadau twristaidd anghydnaws’

Er bod llawer wedi croesawu’r statws, roedd grŵp pwyso Cylch yr Iaith wedi datgan cyn y cyhoeddiad eu pryder am effaith y cynllun ar dwristiaeth.

“Beth bynnag fo gobaith y cyngor sir, rhaid cydnabod yn onest y byddai ennill statws Safle Treftadaeth y Byd yn cynyddu twristiaeth i’r ardaloedd dan sylw,” dywedodd y grŵp.

“Ac o ran y bwriad i ‘sbarduno datblygiad economaidd’, mae’n ymddangos mai datblygiadau twristaidd sydd ar gynnydd drwy’r sir.

“Mae profiad ardaloedd eraill o fewn y sir yn dangos sut y mae cymeriad ac iaith cymuned yn cael eu newid o ganlyniad i ddatblygiadau twristaidd anghydnaws.”