Yn dilyn archwiliad post-mortem ddoe (dydd Gwener 4 Mehefin), mae’r heddlu wedi cadarnhau mai corff Frankie Morris a gafodd ei ddarganfod mewn coedwig ger Caerhun ar gyrion Bangor ddydd Iau.

Roedd y llanc 18 oed wedi bod ar goll ers dechrau mis Mai.

Dywed yr heddlu hefyd nad ydyn nhw’n trin ei farwolaeth fel un amheus bellach.

Yn ystod y cyfnod pan oedd ar goll, roedd dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, a dyn a dynes ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd y tri eu rhyddhau a doedden nhw ddim yn rhan o’r ymchwiliad wedyn.

Dywed yr heddlu fod teulu Frankie yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol ar hyn o bryd.