Mae cyn-Aelod Seneddol Llafur Blaenau Gwent, Llew Smith, wedi marw yn 77 oed.

Fe gynrychiolodd Dde-ddwyrain Cymru yn Senedd Ewrop rhwng 1984 a 1994, a bu’n Aelod Seneddol rhwng 1992 a 2005.

Bu farw ddoe (Mai 27) ar ôl dioddef gyda chanser yn ôl y South Wales Argus, ac mae nifer o wleidyddion wedi talu teyrngedau iddo.

“Dw i’n drist o glywed am farwolaeth Llew,” meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford.

“Fel Aelod o Senedd Ewrop ac fel Aelod Seneddol dros Flaenau Gwent, roedd Llew yn eiriolwr cadarn dros y cymunedau yr oedd e’n eu cynrychioli.

“Roedd yn gadarn ei gredoau, a byth yn gwrthod siarad am faterion pwysig y dydd.

“Roedd Llew yn sosialydd radical yn nhraddodiad Blaenau Gwent.

“Mae fy meddyliau gyda theulu a ffrindiau Llew ar yr amser anodd hwn.”

“Sefyll dros yr ardal”

“Mae’n ddrwg iawn gen i glywed fod Llew Smith, cyn Aelod Seneddol dros Flaenau Gwent, wedi marw neithiwr,” meddai Alun Davies, sy’n Aelod o’r Senedd dros yr etholaeth.

“Roedd Llew yn rhywun a oedd bob tro yn sefyll fyny dros ein hardal, ac yn brwydro’n galed dros bopeth oedd yn ei yrru mewn gwleidyddiaeth.

“Mae fy meddyliau a’m gweddïau gyda’i deulu heddiw.”

“Sicr ei egwyddorion”

“Dw i’n drist iawn o glywed fod Llew Smith wedi marw. Bydd nifer o bobol yn methu Llew. Roedd yn Aelod Seneddol uchel ei barch a wnaeth frwydro dros yr etholaeth yn erbyn y Ceidwadwyr bob diwrnod,” meddai Nick Smith, yr Aelod Seneddol presennol dros Flaenau Gwent.

“Roedd e’n hynod sicr o’i egwyddorion, a gwnaeth ei orau dros Flaenau Gwent.”

Roedd Llew Smith, a fu’n gweithio fel glöwr hefyd, yn wrthwynebydd cryf i ddatganoli, ac ymgyrchodd dros bleidlais ‘na’ yn ystod refferendwm datganoli 1997.

Yn aml, roedd e’n beirniadu’r buddsoddiad yn y Cynulliad, fel yr oedd ar y pryd, gan honni fod hynny ar draul cymunedau mwy difreintiedig.