Mae bachgen wedi cael ei arestio ac mae’r heddlu yn chwilio am un arall ar ôl i alarch gael ei lladd.

Cafodd dau alarch eu hanafu’n ddifrifol mewn “digwyddiad gwarthus o greulondeb” medd yr heddlul.

Cafodd y bachgen ei arestio wedi’r ymosodiad a ddigwyddodd ger clwb golff y Rhyl nos Sul.

Cafodd dau ddyn ifanc eu dal ar deledu cylch cyfyng tua 10yh.

Ymchwiliad

Mae’r bachgen yn cael ei holi mewn “cysylltiad â’r digwyddiad”.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw yn “gwneud popeth” y gallant i ddal y dyn ifanc arall sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad.

Bydd y bachgen sydd wedi cael ei arestio yn cael ei gyfweld gan swyddogion yr heddlu a’r RSPCA.

“Mae hwn yn ddigwyddiad gwarthus o greulondeb,” meddai Insp Chris Jolley.

“Rydym yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r RSPCA ac yn annog unrhyw un a allai gynorthwyo gyda’n hymchwiliad parhaus i ddod ymlaen.”