Mae un o gwmnïau cyfryngau lleol mwyaf y DU wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer creu rhagor o swyddi newyddiadurol yng Nghymru.
Mae Newsquest yn berchen ar ragor na 200 o bapurau newydd gan gynnwys The National, the South Wales Argus, y Leader yn Wrecsam, y Tivyside advertiser, Powys County Times a’r Rhyl Journal.
Mae nhw yn cyflogi tua 50 o newyddiadurwyr yng Nghymru.
Mae’r cwmni yn rhan o gwmni papurau newydd Gannett yn yr Unol Daleithiau.
Mae nhw yn dweud bod mwy o ffocws ar gyhoeddiadau digidol lleol yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi eu helpu i gynyddu nifer eu darllenwyr.
Digidol
Byddai’r buddsoddiad newydd o £1.5 miliwn yn creu 50 o swyddi newydd.
O’r 50 o swyddi, bydd 32 yn newyddiadurwyr digidol lleol yn gweithio i frandiau penodol mewn ystafelloedd newyddion ledled y DU.
Bydd rhai o’r swyddi mewn lleoliadau sy’n cynnwys gogledd a de Cymru yn ogystal ac ar hyd a lled y DU.