Dim ond mantra “swyddi, swyddi, swyddi” all newid meddylfryd Cymru mai dim ond Llafur a’r Ceidwadwyr yw’r opsiynau i bleidleiswyr, yn ôl Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.

Daw ei sylwadau yn y Sunday Times heddiw (dydd Sul, Mai 2), lle mae’n dweud y bu’n ymgyrch etholiadol unigryw mewn blwyddyn unigryw.

Dywed y bu’n “ymgyrch o wrthddywediadau, yn debyg iawn i argyfwng Covid ei hun, yn ymgyrch o bellter cymdeithasol, ond yn un gymdeithasol serch hynny”.

Mae’n dweud ei fod yn “edmygu” ymdrechion pobol Cymru dros y 14 mis diwethaf.

“Wrth wynebu pandemig di-hafal yn ei raddfa ac yn ddi-hafal yn ei olion o drasiedi, mae ein pobol wedi cyd-dynnu – gan brofi unwaith eto mai ein hased mwyaf yw ein gilydd,” meddai.

“Mae’r twymgalon a’r torcalonnus wedi symud fel un.

“Dw i wedi cwrdd â theuluoedd sydd wedi colli anwyliaid, pobol nad yw eu swyddi bellach yn dal i fod, a phobol ifanc sy’n poeni am eu gobeithion yn y dyfodol.”

Ugain mlynedd o ddatganoli

Yn y cyfamser, mae’n dweud bod ugain mlynedd o ddatganoli ac addewidion wedi’u tanseilio gan y modd maen nhw wedi cael eu cyflwyno.

“Ers nifer o flynyddoedd, mae ffigurau diweithdra cymharol isel wedi cuddo un o broblemau economaidd gwaethaf Cymru – tâl tlodi,” meddai.

“Mae gweithwyr Cymru’n dal i ennill oddeutu £50 yn llai yr wythnos na’u cymheiriaid yn Lloegr a’r Alban.

“Byddai setlo am ail orau’n golygu chwifio’r faner wen a selio tynged cenedlaethau’r dyfodol sydd heb fentro eto i’r byd gwaith.

“Dim ond mantra ‘swyddi, swyddi, swyddi’ all newid meddylfryd torfol Llafur-Tori mai dyma’r gorau sydd gael i Gymru.”

Addewidion Plaid Cymru

Mae’n dweud y byddai Plaid Cymru’n:

  • canolbwyntio’n ddiflino ar greu swyddi sy’n talu’n dda ac sy’n gofyn am sgiliau o’r radd flaenaf, ac yn creu 60,000 o swyddi yn y gwasanaethau cyhoeddus, ynni, isadeiledd a mwy
  • Hyfforddi a recriwtio 6,000 o staff ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd – 1,000 o feddygon, 4,000 o nyrsys a 1,000 o weithwyr iechyd proffesiynol er lles y Gwasanaeth Iechyd a’r economi
  • cyflogi 4,500 yn rhagor o athrawon a staff cynorthwyol i godi safonau mewn ysgolion sydd wedi dioddef o dan Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol

“Yn wahanol i bleidiau Llundain, mae Plaid Cymru’n gwrthod credu bod economi Cymru’n israddol yn ei hanfod,” meddai Adam Price wedyn.

“Does yna’r un broblem na allwn ni ei datrys drosom ein hunain gyda’r lifer a’r arweinyddiaeth cywir.

“Mae datgarboneiddio ar gyfer economi wyrddach, arloesi ar gyfer economi well, ac arferion caffael cryfach fel bod cwmnïau Cymreig yn elwa o gytundebau Cymreig i gyd yn rhan o gynllun economaidd trawsnewidiol Plaid.

“Gyda chanlyniadau economaidd Covid yn bwrw pobol ifanc yn arbennig o galed, bydd Plaid Cymru’n cyflwyno sicrwydd swyddi neu hyfforddiant i bawb rhwng 16-24 oed i dorri’r rhwystrau i gyflogaeth ystyrlon i lawr.”

Ymhellach, mae’n dweud y byddai Plaid Cymru’n:

  • cyflwyno 50,000 o gartrefi cyhoeddus yn sgil y gred fod “llety diogel yn hawl sylfaenol i bawb”
  • ailhyfforddiant gwerth £5,000 i bawb dros 25 oed yn sgil cynnydd o 87.7% yn nifer y bobol wnaeth hawlio Credyd Cynhwysol rhwng Chwefror y llynedd a Mawrth eleni

‘Gwaddol Llafur yn un o broblemau’

Mae’n dweud bod “gwaddol Llafur yn un o broblemau”, ond fod “addewid llywodraeth Plaid yn un o atebion a pheidio byth â cherdded heibio ar yr ochr arall”.

Mae’n wfftio’r awgrym fod “Cymru’n rhy fach, yn rhy dlawd ac yn rhy dwp i sefyll ar ei thraed ei hun”, ac yn dweud bod polau piniwn yn dangos bod pobol yn dechrau cefnu ar “hunanhyder llethol Llafur”.

“Y diffyg hyder hwn sy’n olygu nad yw ein cenedl erioed wedi gallu gwireddu ei photensial economaidd,” meddai.

“Dyna’r rheswm pm fod miloedd o bobol yn sownd mewn cyflogau tlodi a pham fod corfforaethau byd-eang a’u negeseuon ystafell bwrdd rheoli’n llawn ymffrost wedi cael eu cefnogi cyn busnesau cartref.

“Dyna’r rheswm pam nad yw newid llywodraeth ddim ond yn ddymunol ond yn hanfodol bellach.

“Byddai arweinyddiaeth newydd a syniadau ffres yn ein rhoi ni ar lwybr gwahanol.

“Pan ddaw penderfyniad ysbryd cymunedol a’r egni a ddaw o feddwl yn wreiddiol ynghyd, does yna ddim byd na allwn ni ei gyflawni.

“Mae eraill wedi cerdded heibio ar yr ochr arall ond wrth bleidleisio dros Gymru ar Fai 6, gallwn ni wynebu’r dyfodol gyda’n gilydd.”