Mae cwmni gwyliau yng Nghaernarfon wedi gweld cynnydd mewn ymholiadau yn dilyn cyhoeddi cynlluniau Lloegr ddydd Llun i lacio’r cyfyngiadau.

Dywed Ann Jones, perchennog cwmni Teithiau Menai ei bod hi wedi derbyn dros ddwsin o ymholiadau am wyliau tramor ers hynny

Daw hynny yn dilyn cyhoeddiad cynllun pedwar cam i lacio cyfyngiadau Lloegr wrth i’r Prif Weinidog, Boris Johnson, gyhoeddi Mai 17 fel y dyddiad cynharaf posibl i deithio dramor.

Er ei bod yn cydnabod nad yw cyhoeddiad Lloegr yn berthnasol i Gymru, teimla bod y newyddion yn cynnig rhywfaint o obaith i bobl allu teithio dramor eleni.

Gyda bron i chwarter canrif o brofiad yn gweithio fel asiant teithiau, dywedodd wrth golwg360 am ei rhwystredigaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae hi wedi bod yn hunllef”

Dywedodd fod y busnes wedi cael ei effeithio’n ddrwg gan y dirwasgiad ond fod y sefyllfa wedi gwella yn fwy diweddar.

“Ar ôl hynny, roedd pethau wedi codi,” meddai, “roedd pethau’n mynd yn wych, roedd gen i gymaint o gwsmeriaid yn fy nghefnogi.

“Wedyn dyma Covid yn dŵad ac mae hi wedi bod yn hunllef ers hynny!”

Bu’n trafod yr heriau o nid yn unig beidio creu unrhyw incwm dros y cyfnod, ond hefyd ad-dalu cwsmeriaid, oedd wedi gorfod canslo eu gwyliau.

“Dwi wedi gweld cynnydd”

Fodd bynnag, teimla bod llygedyn o obaith ar y gorwel.

“Ers y cyhoeddiad dwi wedi gweld cynnydd, mae’n rhaid i mi ddweud,” meddai.

“Dydi hi ddim yn illegal i fwcio gwyliau ar hyn o bryd ond mae hi yn illegal i drafaelio – gei di ddim trafaelio.

“Ond does yna ddim byd yn dweud fedri di ddim bwcio dy wyliau i gael mynd hwyrach ymlaen yn y flwyddyn neu flwyddyn nesaf hyd yn oed.”

Eglurodd ei bod wedi derbyn ymholiadau gan bobl yn awyddus i deithio i leoliadau amrywiol ledled y byd a fod gwyliau llongau pleser hefyd yn boblogaidd.

Er hynny, rhybuddiodd y bydd prisiau gwyliau’n cynyddu yn gyflym, wrth i’r gofyn amdanynt ddwysau.

“Mae hynny’n mynd i fod yn wirion bost,” meddai, “er bod yna filoedd o wyliau ar gael.”

“Rydyn ni yma i edrych ar ôl ein cwsmeriaid”

Rhannodd neges ar ei thudalen Facebook , yn annog pobol leol i gefnogi cwmnïau teithio annibynnol, yn hytrach na bwcio gwyliau ar-lein.

“Os wyt ti’n bwcio ar-lein, ti’n meddwl dy fod ti’n cael bargen ac ella dy fod ti ond does yna ddim byd i ddweud ein bod ni methu rhoi bargen i bobl chwaith.

“Hefyd, pwy sydd i wybod beth sydd o’n blaenau?” meddai.

Dywedodd y byddai bwcio gwyliau drwy gwmni annibynnol yn darparu sicrwydd ariannol i gwsmeriaid a’u galluogi i fanteisio ar eu harbenigedd.

“Rydyn ni yma i edrych ar ôl ein cwsmeriaid,” meddai, “dim number ydyn nhw inni, maen nhw fatha teulu ac mae hynny mor bwysig i ni.

“Ella bod hi werth talu dipyn bach mwy am hynny hefyd,” meddal.

“Cyn hyn i gyd, roedd y drws bob tro ar agor a phobol yn galw i mewn – hyd yn oed os nad oedden nhw’n bwcio gwyliau .  . i eistedd a chael panad a chat hefo ni!”

“Mae yna ormod o ffeit ynddo fi”

“Mae hi wedi bod yn anodd ofnadwy ac mae hi dal yn anodd – dydw i ddim allan o’r cwmwl du yma eto – dim mwy na dim un busnes arall lleol,” meddai.

“Ond dwi dal yma, dal i gwffio ac yn edrych ar ôl fy nghwsmeriaid . . . dwi’n lwcus bod yna gymaint yn fy nghefnogi i.

“Hebddyn nhw yn rhoi’r wmff i mi gario ymlaen, llawer o ddiwrnodau fysa hi wedi bod yn hawdd dweud digon ydi digon.

“Ond mae yna ormod o ffeit ynddo fi i wneud hynny a gormod o feddwl o fy nghwsmeriaid.”

Mae Ann ei hun eisoes wedi bwcio gwyliau i Giprys.

“Mae’n rhaid i mi gael rhywbeth i edrych ymlaen ato!” meddai.

“Os dydio ddim yn digwydd, fedrai newid o – fela dwi’n sbïo arni.”

“Os ydw i’n gwneud hynny i fy nghwsmeriaid, be’ sydd yn wahanol i fi wneud o fy hun!”

Cymry yn dechrau bwcio gwyliau eto

Sian Williams

Am y tro cyntaf ers dyfodiad y coronafeirws, mae cwsmeriaid cwmni teithio annibynnol yn y gogledd …