Mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio’n unfrydol o blaid cynllun i fenthyca £15.4m er mwyn prynu tai i’w rhentu i drigolion lleol.

Daw hyn wedi i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun Gweithredu Tai gwerth £77m ym mis Rhagfyr er mwyn sicrhau 1,500 o gartrefi fforddiadwy.

Mae’r cynllun diweddaraf yn cynnwys darparu mwy o lety i bobol ddigartref, adeiladu mwy o dai cymdeithasol i’w gosod i drigolion lleol a dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd.

Er iddyn nhw gydnabod y risg ariannol sydd ynghlwm wrth y cynllun, mae’r cynghorwyr o’r farn fod rhaid mentro er mwyn diwallu anghenion tai trigolion lleol.

“Ffeindio atebion i’n problemau ein hunain”

“Rydyn ni fel cabinet y Cyngor yn trio ffeindio’r atebion i’n problemau ein hunain,” meddai Craig ab Iago, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Dai ar Gyngor Gwynedd.

“Dyna ydi’r eitem hwn, mae o’n rhan o’n cynllun gweithredu tai ac mae o’n enghraifft arall o sut rydyn ni’n trio gwneud popeth rydyn ni’n gallu gwneud i helpu ein trigolion ni.

“Mae’n bleser bod yma hefo rhywbeth positif, arloesol a gwahanol ac sy’n trio ffeindio ffyrdd i ddarparu cartrefi i bobl leol.”

“Gap mawr yn y farchnad o ran tai rhent”

“Rydw i’n hoff iawn o’r cynllun ac yn diolch i chi am ddŵad a’r papur o’m blaenau ni,” meddai’r cynghorydd Catrin Warger.

“Rydyn ni gyd fel aelodau yn ymwybodol o’r problemau tai yn ein ward ni ac yn arbennig ar gyfer tai rhent.

“Mae yna gynlluniau adeiladu sydd wedi cyfarch tai fforddiadwy ond mae’r gap mawr yn y farchnad o ran tai rhent.

“Rydw i’n falch o weld bod hwn yn cyfarch hynny ac yn meddwl tu allan y bocs – bod ni’n prynu tai yn hytrach nag adeiladu pob tro.”

Bu i Dafydd Gibbard, Pennaeth Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd, gydnabod pwysigrwydd darparu cymysgedd o atebion i’r argyfwng tai, gan amlygu nad adeiladu tai newydd yw’r unig ateb.

Cydnabod y risg

Yn ystod y cyfarfod, bu i sawl cynghorydd gydnabod fod y cynllun yn creu elfen o risg ariannol i’r Cyngor.

Er hynny, mynegodd Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd, Dilwyn Williams fod angen cymryd “gogwydd mentrus” er mwyn sicrhau bod modd i drigolion Gwynedd hawlio cartrefi fforddiadwy.

Disgrifiodd y cynghorydd Dafydd Meurig y cynllun fel un “cyffrous iawn, iawn”.

“Rwy’n cydnabod y risgiau,” meddai.

“Ond mae’n rhaid i ni gymryd risg fel hyn i bobol Gwynedd.”

Ychwanegodd Dafydd Gibbard fod posibilrwydd o ehangu’r cynllun yn y dyfodol pe bai’n llwyddiannus.

 

Cadarnhau cynllun £77 miliwn i fynd i’r afael â’r argyfwng tai

Nod cynllun chwe blynedd Cyngor Gwynedd yw sicrhau 1,500 o gartrefi fforddiadwy i drigolion lleol