Heddiw (dydd Mawrth 25 Ionawr), mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi y bydd Prifwyl Ceredigion yn cael ei gohirio eto, tan Awst 2022.

Gwnaed y penderfyniad gan Fwrdd Rheoli’r Eisteddfod dros y Sul yn dilyn trafodaethau.

Y bwriad bellach yw cynnal y Brifwyl yn Nhregaron ym mis Awst 2022, gan symud Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd i Awst 2023, a chynnal yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf yn 2024.

“Siomedig iawn”

Dywedodd Llywydd Llys yr Eisteddfod a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli, Ashok Ahir: “Yn naturiol, ry’n ni’n siomedig iawn ein bod wedi gorfod cymryd y penderfyniad hwn unwaith eto, ond ry’n ni’n sicr y bydd pawb yn cytuno mai dyma’r penderfyniad cywir a synhwyrol i’r Bwrdd Rheoli’i gymryd, ac na fydd y cyhoeddiad heddiw’n syndod.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen at ddod ynghyd yng Ngheredigion unwaith y bydd y feirws wedi cilio, ac yn sicr, bydd Eisteddfod Ceredigion yn ŵyl i’w chofio a’i gwerthfawrogi bryd hynny.

“Yn y cyfamser, mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn cefnogi ein gilydd a’n cymunedau ar draws y wlad a chadw’n ddiogel.”

“Fe ddaeth yn gynyddol amlwg…”

Ychwanegodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: “Fe ddaeth yn gynyddol amlwg yn ein trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru dros y misoedd diwethaf na fyddai modd cynnal Eisteddfod yn Nhregaron yn yr haf.

“Does neb yn fwy siomedig am hyn na ni, ac mae gorfod cyhoeddi hyn am yr eildro yn rhywbeth anodd iawn i orfod ei wneud.

“Fe fyddwn ni’n parhau gydag Eisteddfod AmGen, gan adeiladu ar lwyddiant y llynedd, ac rwy’n falch o ddweud ein bod ni’n awyddus i sicrhau bod elfen gref o gystadlu’n rhan o’r arlwy eleni,” meddai.

“Ry’n ni eisoes yn trafod ambell opsiwn cyffrous arall gyda phartneriaid, ac fe fyddwn ni’n sicr o rannu unrhyw gynlluniau unwaith y gallwn.

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod hynod bryderus ac anodd i bawb.  Ond ar nodyn positif, mae’r ffordd mae grwpiau, sefydliadau ac unigolion wedi cydweithio er lles y Gymraeg a’n diwylliant wedi bod yn arbennig iawn.

“Ry’n ninnau wedi bod yn falch iawn o gefnogi nifer fawr o berfformwyr ac artistiaid yn ystod y cyfnod anoddaf bosibl drwy brosiect Eisteddfod AmGen.”

“Torcalonnus i bawb sy’n rhan o’r Eisteddfod”

Dywedodd y Prif Weithredwr hefyd fod “colli Eisteddfod arall yn mynd i gael effaith pellgyrhaeddol arnom ni fel sefydliad” ac y bydd proses ymgynghori’n mynd rhagddi i gwtogi nifer y staff.

“Yn anffodus, ry’n ni’n wynebu blwyddyn arall hynod o heriol yn ein hanes.

“Ry’n ni wedi gorfod dechrau ar broses ymgynghori gyda staff gan fod rhaid i ni leihau’r tîm i hanner ei faint er mwyn gallu goroesi’r cyfnod nesaf.

“Mae cyhoeddi hyn heddiw yn dorcalonnus i bawb sy’n rhan o’r Eisteddfod.”

“Gwarchod y syniad o Eisteddfod a hanner ar gaeau Tregaron”

Bydd y brifwyl yn cael ei chynnal ar gaeau Tregaron yn 2022 – 30 mlynedd ers yr Eisteddfod Genedlaethol ddiwethaf yng Ngheredigion
Eisteddfod Llanrwst 2019

“Rydyn ni eisiau cynnal yr Eisteddfod orau erioed…”

Y farn yn lleol: cynnal Eisteddfod Genedlaethol Tregaron eleni ai pheidio?