Mae Enfys James yn Swyddog Olrhain Cysylltiadau ac yn rhan o Dîm Diogelu Iechyd y Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion.

Fe fu’n siarad â golwg360 am ei diwrnod gwaith arferol yn ystod y pandemig coronafeirws, ac yn egluro’r broses o’r dechrau i’r diwedd, gan awgrymu pam fod rhai mesurau a chyfyngiadau wedi cael eu rhoi ar waith.

Sut ddaethoch chi’n Swyddog Olrhain Cysylltiadau?

Pan ddarllenais yr hysbyseb swydd a’r disgrifiad swydd ar gyfer y Swyddog Olrhain Cysylltiadau ar dudalen Swyddi Gwag Cyngor Sir Ceredigion, meddyliais ‘Rwyf eisiau gwneud y rôl hon!”

Roedd y swydd wir yn apelio ataf, ac roeddwn yn sicr eisiau bod yn rhan o dîm COVID-19 Cyngor Sir Ceredigion.

Mae’n rhoi cyfle i wneud cyfraniad gwerthfawr a sicrhau iechyd a diogelwch trigolion Ceredigion.

Disgrifiwch ddiwrnod arferol fel Swyddog Olrhain Cysylltiadau

Mae’r Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau yn gweithredu o 8am tan 8pm saith diwrnod yr wythnos, ac rwy’n gweithio ar sail shifft.

Fel Swyddog Olrhain Cysylltiadau, bydd achos yn cael ei ddyrannu i mi a byddaf yn gweithio arno nes ei fod wedi’i gwblhau’n llawn. Byddaf yn ffonio’r achos positif ar unwaith gan obeithio cael ateb. Os nad oes ateb, a bod opsiwn i adael neges, byddaf yn gwneud hynny.

Unwaith rwy’ wedi cadarnhau fy mod yn siarad gyda’r person cywir, bydda i’n gofyn iddyn nhw gadarnhau pa symptomau maen nhw wedi eu datblygu e.e. peswch, tymheredd, methu ag arogli neu flasu, ac ar ba ddyddiad y dechreuodd eu symptomau. Mae rhai achosion positif wedi bod yn asymptomatig, felly dim ond dyddiad y prawf sydd gennym i ddibynnu arno.

Bydd angen i mi wedyn gadarnhau pa leoliadau maen nhw wedi ymweld â nhw a gyda phwy maen nhw wedi dod i gysylltiad â nhw yn ystod y 48 awr cyn i’w symptomau ddechrau hyd at yr adeg y bydda i’n cysylltu â nhw dros y ffôn. Mae’n hanfodol fy mod yn casglu gwybodaeth fanwl ynghylch y cysylltiadau yn eu cartref, y cysylltiadau nad ydyn nhw’n rhan o’u cartref, a ydyn nhw wedi bod yn y gwaith, a ydyn nhw wedi mynd i unrhyw siopau, tafarnau, caffis neu fwytai, a ydyn nhw wedi bod i ffwrdd ar wyliau ac ati.

Mae’n rhaid i mi gasglu enwau’r holl gysylltiadau yn ogystal â dyddiadau geni, cyfeiriadau a rhifau ffôn y bobl maen nhw wedi dod i gysylltiad agos â nhw.

Mae rhai achosion wedi cael hyd at 40 o gysylltiadau unigol, sy’n golygu y bydd yn rhaid i mi uwchlwytho manylion 40 person gwahanol.

Unwaith y bydd y rhestr o gysylltiadau a lleoliadau wedi’i chwblhau, bydd yn cael ei hanfon ymlaen yn awtomatig at y Cynghorwyr Olrhain Cysylltiadau a fydd yn gyfrifol am ffonio’r rheini sydd wedi dod i gysylltiad, a chynnig cyngor iddyn nhw ynglŷn â hunanynysu.

Mewn rhai achosion, mae’r Tîm Olrhain Cysylltiadau wedi nodi achosion positif sydd wedi ffurfio clwstwr, ble mae’r achosion yn gysylltiedig drwy gynulliadau cymdeithasol neu drwy weithle. Yna, mae angen i’r Swyddog Olrhain Cysylltiadau weithredu fel ditectif i ryw raddau.

Os ydym wedi derbyn dwsin o achosion positif sydd wedi bod yn bresennol yn yr un cynulliad cymdeithasol, mae angen i ni ddod o hyd i’r wybodaeth gefndirol gywir gan bob unigolyn, sy’n ddiddorol ond yn gallu bod yn heriol.

Beth ydych chi’n ei fwynhau am y gwaith?

Yr agwedd orau yw bod pob achos yr ydych yn delio ag e’n wahanol. Pan fyddaf yn gwneud fy ngalwad gychwynnol i achos positif, rwy’n credu ei bod yn bwysig gofyn iddyn nhw sut maen nhw’n teimlo cyn gynted ag y bydda i wedi cadarnhau eu manylion personol.

Mae rhai achosion positif wedi bod yn wael iawn tra bod eraill wedi cael symptomau ysgafnach.

Byddwch yn siarad â pherson ifanc sydd newydd ddechrau yn y Brifysgol neu berson oedrannus sydd wedi ymddeol.

Mae’n wir dweud eich bod yn datblygu perthynas gyda’r achos positif yn ystod y cyfnod byr y byddwch yn siarad gyda nhw ar y ffôn.

Beth yw’r agwedd fwyaf heriol ar y gwaith?

Yr agwedd fwyaf heriol ar y gwaith yw casglu gwybodaeth gywir gan bob achos positif, a chael pob achos positif i roi cyfrif gonest a dibynadwy o’u cysylltiadau a’u lleoliadau.

Rwy’n dibynnu’n llwyr ar y wybodaeth rwy’n ei derbyn gan yr achosion positif. Mae fel cwblhau jig-so – er mwyn cwblhau’r darlun, mae angen i chi roi pob darn yn ei le.

Rwy’ wedi cael fy nghyhuddo o fod yn dwyllwr. Roedd hon yn alwad hir a heriol iawn ac roedd yn rhaid i mi ddefnyddio tact a diplomyddiaeth i’w sicrhau fy mod yn Swyddog Olrhain Cysylltiadau.

Ar adegau, rwy’ wedi cael achosion nad ydyn nhw wedi cael gwybod eu bod wedi profi’n bositif a fi yw’r person cyntaf i ddweud wrthyn nhw. Mae rhai o’r achosion hyn wedi bod yn emosiynol dros y ffôn ac rwyf wedi gorfod eu cysuro, ac ar ôl fy ngalwad gychwynnol bydda i’n sicrhau fy mod yn eu ffonio eto ddiwrnod yn ddiweddarach i wirio eu lles.

Mae hyn yn amlygu pa mor heriol ydyw yn ogystal â pha mor bwysig yw cael yr achosion positif i roi’r wybodaeth gywir bob amser.

Pam fod eich gwaith yn bwysig i’r Cyngor?

Mae fy rôl fel Swyddog Olrhain Cysylltiadau yn hollbwysig er mwyn amddiffyn yr holl drigolion a’n cymuned yng Ngheredigion drwy helpu i atal y feirws rhag trosglwyddo yn y gymuned a thorri’r gadwyn drosglwyddo.

Rwy’n cymryd fy rôl fel Swyddog Olrhain Cysylltiadau o ddifrif, ac rwy’n ymfalchïo mewn coladu a throsglwyddo’r wybodaeth gywir a dderbyniaf o’n hachosion yng Ngheredigion.

Beth yw eich prif neges i bobol Ceredigion?

Mae hwn yn gyfnod anodd i ni i gyd. Mae hon yn flwyddyn na welwyd mo’i thebyg o’r blaen, a bydd pethau’n wahanol o hyn ymlaen. Fodd bynnag, rydym ni i gyd yn yr un cwch.

Fy mhrif neges i bobol Ceredigion yw iddyn nhw hunanynysu os oes ganddyn nhw unrhyw symptomau’r coronafeirws.

Os oes ganddyn nhw beswch newydd a pharhaus, tymheredd uchel, neu os nad ydyn nhw’n gallu arogli neu flasu, dylen nhw aros gartref.

Mae rhagor o ganllawiau ar gael fan hyn.