Ar ddiwrnod plant mewn angen, mae ysgolion Cymru wedi bod yn brysur yn codi arian, drwy wisgo gwisg ffansi neu byjamas, creu gwalltiau gwyllt a chynnal disgo caneuon Cymraeg.

Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Gwisg ffansi oedd thema Ysgol Gymraeg Aberystwyth, sydd wedi hel £632 i apêl Plant Mewn Angen.

Ysgol Abercaseg, Bethesda

Mae plant Ysgol Abercaseg, Bethesda wedi bod yn brysur yn addurno bisgedi a dylunio bandana newydd i Pudsey’r Arth – wrth wisgo eu gwisg ffansi.

“Rydan ni wedi cael diwrnod ffantastig!” meddai eu hathrawes Elliw Williams.

Ysgol Tregarth

Gwalltiau gwyllt a phyjamas oedd themâu Ysgol Gynradd Tregarth a rhoddwyd tystysgrifau i’r plant gyda’r gwalltiau mwyaf gwyllt.

“Roedd ymdrech yn anhygoel,” meddai’r Brifathrawes, “gan gynnwys gan y staff!”

Mae’r ysgol wedi bod yn cynnal gweithgareddau drwy gydol yr wythnos fel rhan o wythnos iechyd a lles. Mae’r plant wedi bod yn beicio, rhedeg a cherdded.

“Mae yna fwrlwm ofnadwy wedi bod yma trwy’r wythnos,” meddai’r Brifathrawes.

Ysgol Gynradd Llanllechid

Mae plant Ysgol Gynradd Llanllechid wedi bod ar daith gerdded i Rachub a hefyd wedi cael trip i goed Meurig i edrych ar gymeriadau Llyfr Mawr y Plant.

Hefyd maen nhw wedi bod yn adrodd idiomau a chynnal disgo caneuon Cymraeg.

Mae’r ysgol wedi codi £247  tuag at goffrau apêl Aled Hughes, y cyflwynydd Radio Cymru sy’n codi arian pbo blwyddyn at Blant Mewn Angen.

Ysgol Gynradd Llanfihangel-Y-Creuddyn, Aberystwyth

Cynhaliwyd cystadleuaeth lliwio ac addurno cacennau yn Ysgol Gynradd Llanfihangel-Y-Creuddyn.

Mae’r ysgol wedi hel £75.