Mae George North wedi bod yn trafod dod yn dad yn ystod y clo, y posibilrwydd o gyrraedd cant o gapiau a’r gystadleuaeth sydd o fewn y garfan.

Ers i gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gael ei gohirio fis Mawrth, mae’r asgellwr wedi profi sawl tro ar fyd.

I leihau ymlediad y coronafeirws yn ystod gêmau’r hydref, mae carfan Cymru wedi creu swigen yng ngwesty’r tîm, ac wedi bod yn byw i ffwrdd o’u teuluoedd.

Ond cyn hynny, roedd George North wrth ei fodd gartref gyda’i deulu newydd.

“Mae wedi bod yn anhygoel i fod adref efo Becky ers i Jac gael ei eni,” meddai.

“Dros y deng mlynedd diwethaf, mae bob dim wedi bod amdanaf i, a beth sydd rhaid i mi ei wneud i fod yn barod ar gyfer gemau – ond mae fy mlaenoriaethau wedi newid dros nos.

“Wrth gwrs mi oedd hi’n wych cael yr amser gwerthfawr yna hefo Becky a Jac ar ddechrau’r clo ond os rhywbeth, mae o wedi gwneud yr amser yma i ffwrdd oddi wrthyn nhw hyd yn oed yn fwy anodd.

“Dyma’r cyfnod hiraf i mi fod i ffwrdd o adref ers geni Jac.”

Bydd Cymru yn cychwyn rhediad prysur o gemau heno (nos Sadwrn, Hydref 24) ym Mharis – y gêm rygbi ryngwladol gyntaf i Gymru ei chwarae ers saith mis.

Ar drothwy cant o gapiau

Bydd George North yn chwarae gêm brawf rhif 99 ei yrfa nos Sadwrn – hyd yma mae ganddo 95 o gapiau dros Gymru a thri dros y Llewod.

Gallai’r asgellwr gyrraedd cant o gapiau rhyngwladol yn ystod gemau’r hydref.

Yn 28 mlwydd oed, ef hefyd fyddai’r person ieuengaf yn hanes y gêm i gyrraedd y garreg filltir.

“Un o fy nhargedau mwyaf yw cael 100 o gapiau dros fy ngwlad,” meddai.

“Mae’n siŵr pan ddechreuais fy ngyrfa y byddai cael un cap wedi bod yn ddigon i mi, byswn i wedi siarad am hynny am weddill fy mywyd.

“Wrth gwrs dw i’n gobeithio cyrraedd y garreg filltir yma, ond ar hyn o bryd, dw i ond yn canolbwyntio ar y gêm ddydd Sadwrn.”

Er i George North weld carden goch wrth chwarae i’r Gweilch fis Awst, mae ei waharddiad eisoes wedi dod i ben.

Rees-Zammit yn cynnal y safon

Mae’r asgellwr ifanc Louis Rees-Zammit, sydd newydd gael ei enwi’n Chwaraewr Ifanc y Gallagher Premiership yn Lloegr, wedi ei gynnwys ar y fainc am y tro cyntaf.

“Mae Zammit wedi bod yn chwarae yn arbennig o dda,” meddai George North.

“Wrth edrych ar yr olwyr sydd gynnon ni ar hyn o bryd, mae Zam yn rhoi pwysau ar y cefnwyr i gyd, boed hynny arnaf i, Josh, Liam a Halfpenny – ac mae cystadleuaeth yn beth da er mwyn cynnal y safon.

“Ei gap cyntaf ddydd Sadwrn fydd y [cap] cyntaf o lawer, dw i’n siŵr.”

Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru, wedi cadarnhau y bydd Louis Rees-Zammit, sydd wedi ei ddewis ar y fainc, yn chwarae rhyw ran yn y gêm nos Sadwrn, ac y bydd George North yn symud i ganol y cae i wneud lle iddo.

“Mae George [North] yn ffit iawn ar hyn o bryd a dw i’n meddwl y bydd yn para 80 munud,” meddai Wayne Pivac.

“Tra efallai na fydd Jonathan [Davies] yn medru para’r gêm gyfan, efallai y bydd George yn symud i ganol cae pan ddaw Louis ymlaen.”

Bu Wayne Pivac yn egluro rhai o’i ddewisiadau mewn cynhadledd i’r wasg gafodd ei chynnal dros y we.

Wayne Pivac

Tîm Cymru

Bydd capten Cymru, Alun Wyn Jones, yn chwarae gêm brawf rhif 148 ei yrfa ac yn dod yn gyfartal â chyn-gapten Seland Newydd Richie McCaw.

Mae’n bosib y gallai’r Cymro 35 oed dorri’r record yn erbyn yr Alban ym Mharc y Scarlets y penwythnos nesaf.

Mae dau enw newydd ar y fainc, y bachwr Sam Parry a’r asgellwr Louis Rees-Zammit.

Yn absenoldeb Ken Owens, sydd allan am hyd at bedwar mis ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ysgwydd, Ryan Elias sydd yn dechrau fel bachwr.

Olwyr: Leigh Halfpenny, George North, Jonathan Davies, Nick Tompkins, Josh Adams, Dan Biggar, Rhys Webb

Blaenwyr: Rhys Carre, Ryan Elias, Samson Lee, Cory Hill, Alun Wyn Jones (capten), Aaron Wainwright, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Sam Parry*, Nicky Smith, Dillon Lewis, Seb Davies, James Davies, Gareth Davies, Rhys Patchell, Louis Rees-Zammit*

*Cap cyntaf

Tîm Ffrainc

Er y pryderon na fyddai clybiau’r Top 14 yn rhyddhau chwaraewyr ar gyfer y gêm gyfeillgar, mae Ffrainc wedi dewis carfan brofiadol.

Dim ond un newid sydd i’r tîm enillodd yng Nghaerdydd fis Chwefror.

Mae Vincent Rattez yn dychwelyd i’r asgell, a Gael Fickou yn symud yn ôl i ganol cae.

Olwyr: Anthony Bouthier; Teddy Thomas, Vrimi Vakatawa, Gael Fickou, Vincent Rattez; Romain Ntamack, Antoine Dupont

Blaenwyr: Cyril Baille, Julien Marchand, Mohamed Haouas, Bernard Le Roux, Damien Willemse, François Cros, Charles Ollivon (capten), Gregory Aldritt

Eilyddion: Camille Chat, Jean-Baptiste Gros, Demba Bamba, Romain Taofifenua, Dylan Cretin, Baptiste Serin, Arthur Vincent, Thomas Ramos