Mae Mark Isherwood, yr AoS dros ogledd Cymru, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i bryderon nad yw pobol yn gwisgo masgiau mewn archfarchnadoedd.

Mae wedi ysgrifennu at Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac wedi codi’r mater yn y Senedd yr wythnos hon.

“Yn fy siop leol ym Mwcle roeddwn yn gwisgo fy masg yn unol â rheolau Llywodraeth Cymru, dim ond i ddod ar draws o leiaf dwsin o bobol y tu mewn i’r siop ddim yn gwisgo unrhyw orchudd wyneb o gwbl, ac un ohonyn nhw’n staff eu hunain yn ail lenwi’r silffoedd”, meddai Mark Isherwood, yn cyfeirio ei sylwadau at Lesley Griffiths.

“Yn eich ateb ysgrifenedig, ddoe, dywedoch y dylai staff ofyn i bobol nad ydynt yn gwisgo mwgwd wneud hynny, ac os oes gan y cyhoedd unrhyw bryderon…. dylent eu riportio i’r awdurdod lleol er mwyn ymchwilio iddynt.

“Sut, felly, ydych chi’n ymateb i wybodaeth bod yna fecanwaith cythryblus yn y system i roi gwybod am bryderon.

“Gan fod yna Safonau Masnach amrywiol ledled y Deyrnas Unedig a’r dasg o gysylltu â chadwyni siopau penodol a Safonau Masnach lleol felly’n bwydo’n ôl i’r Brif Swyddfa’r siop honno, a Phrif Swyddfeydd sy’n delio, â phedwar amrywiad gwahanol mewn deddfwriaeth gwlad.”

Mewn ymateb dywedodd Lesley Griffiths nad oedd hi wedi derbyn unrhyw gwynion ynghylch y system achwyn am bobol sy’n shopa heb fygydau.

Ychwanegodd ei bod wedi cael cyfarfodydd rheolaidd â manwerthwyr a’i bod yn ffyddiog eu bod yn parhau i ddilyn polisi Llywodraeth Cymru “ym mhob siop yng Nghymru.”