Mae Tegwen Brickley wedi penderfynu shafio’i phen er mwyn codi arian i Gylch Meithrin Corris.

Mae pump o blant yn mynychu’r Cylch Meithrin sydd wedi ei leoli ar dir Ysgol Dyffryn Dulas ger Machynlleth ar hyn o bryd, ond yn sgil Covid-19 mae’r cylch yn wynebu colledion ariannol.

“Dros yr hanner can mlynedd diwethaf mae’r Cylch wedi gofalu am gannoedd o blant yn yr ardal”, meddai Tegwen Brickley wrth golwg360.

“Mae’r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel hyd yma, ac wir yn dangos pwysigrwydd y Cylch i’r gymuned leol.

“Mae’r pandemig wedi effeithio’n gallu i gynnal unrhyw rai o’n digwyddiadau codi arian arferol megis prydau bwyd, ffilmiau, sesiynau crefft; ac mae hyn wedi cael effaith ddifrifol ar ein sefyllfa ariannol.

“Dyma sydd wedi ein harwain at feddwl am ffordd greadigol i oresgyn hyn”.

‘Cadw’r Cylch ar agor i genedlaethau’r dyfodol’

“Bydd unrhyw gyfraniad, waeth yn fach neu’n fawr, yn cyfrannu at gadw’r Cylch ar agor i genedlaethau’r dyfodol.”

Bydd Tegwen Brickley yn cael shafio’i phen ddydd Sul, Hydref 18.

Hyd yma mae wedi chwalu ei tharged gwreiddiol o £500 a chodi dros £1250.

Ym mis Tachwedd fydd rhai o blant yr ardal hefyd yn cymryd rhan mewn teithiau gerdded noddedig gyda’u theuluoedd i godi arian i’r Cylch Meithrin.