Mae trefn o dalu am barcio gydag ap ar ffôn symudol yn cael ei chyflwyno yng Ngwynedd.

Bydd y system ar-lein yn weithredol o ddydd Llun, Awst 3, yn 56 o feysydd parcio’r cyngor sir.

Mae’n caniatáu i bobl dalu am yr amser sydd ei angen arnyn nhw gan ddefnyddio ap PayByPhone, heb orfod dod o hyd i’r union bris.

“Dros y misoedd diwethaf, rydym i gyd wedi dod yn fwy cyfarwydd â thalu heb arian parod fel rhan o ymdrechion i atal y coronafeirws rhag lledaenu,” meddai’r Cynghorydd Gareth Griffith, sy’n Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd.

“Rydan ni’n credu y bydd y system newydd yma yn helpu i sicrhau ein bod yn parhau i chwarae ein rhan i atal yr haint rhag lledaenu, ynghyd â chynnig mwy o hyblygrwydd i siopwyr wrth i fwy o bobl ymweld â chanol ein trefi a chyrchfannau siopa poblogaidd.”

Mae modd lawrlwytho’r ap PayByPhone o’r App Store neu Google Play Store ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan www.paybyphone.co.uk.