Mae ymgyrch newydd ‘Eryri, ond yn well fyth’ yn gobeithio gwneud Parc Cenedlaethol Eryri yn Barc Cenedlaethol heb sbwriel.

Wrth gydweithio gyda Phartneriaeth y Wyddfa ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol, nod yr ymgyrch yw annog newid ac ysbrydoli pobol i beidio gadael dim byd ar eu holau.

“Dydy sbwriel ddim yn anochel. Mae Eryri heb sbwriel yn bosib”, meddai John Harold, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri.

“Mae’n amlwg y byddai Eryri heb sbwriel yn well profiad i bawb – preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.”

Daw’r cyhoeddiad wythnos ar ôl i Heddlu Gogledd Cymru orfod cynorthwyo staff Cyngor Gwynedd ar ôl i gannoedd o geir barcio yn anghyfreithlon ar ochr prif ffyrdd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Ers hynny mae Heddlu’r Gogledd wedi gorfod troi cerbydau i ffwrdd o ardal Pen-y-Pas yn Eryri, ac mae rhai wedi awgrymu dylid cau holl lwybrau’r Wyddfa nes bydd cynllun newydd mewn lle i reoli llif traffig a phobol.

‘Pawb ar eu hennill’

Yn ôl John Harold, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri mi fyddai Eryri heb sbwriel yn arbed arian a “byddai pawb ar eu hennill.”

“Mae yna lu o broblemau anodd, megis trafnidiaeth a pharcio, lle bydd angen gwario arian mawr ar adeiladwaith mewnol a chostau gweithredu er mwyn sicrhau atebion tymor hir”, meddai.

“Mae sbwriel yn wahanol. Mae’r atebion i sbwriel yn ein dwylo ni – mae gan bob un ohonom ran hanfodol i’w chwarae.

“Mae sbwriel, yn llythrennol, yn ein dwylo ni.

“Gyda’n gilydd gallwn gymryd camau tuag at sicrhau Eryri heb sbwriel.”

Ymgynghoriad cenedlaethol ar blastig un tro

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi lansio ymgynghoriad er mwyn gwaredu plastig un tro yng Nghymru.

“Gobeithio y bydd pobl Cymru yn awr yn manteisio ar y cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn a’n helpu i symud ymlaen ar ein taith tuag at Gymru ddi-sbwriel”, meddai Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol.