Mae swyddog carchar wedi cael dedfryd ohiriedig ar ôl magu perthynas â charcharor yr oedd ganddi obsesiwn â fe.
Roedd Libby Shankland, 24, wedi cyfnewid 14,000 o alwadau ffôn a bron i 5,000 o negeseuon testun ag Adnan Ali dros gyfnod o bedwar mis.
Roedd yntau yn y carchar am gyflenwi cyffuriau, ac fe ddefnyddiodd e ffôn symudol yn anghyfreithlon er mwyn cynnal y berthynas dan glo.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod pobol wedi dod i wybod am y berthynas yn dilyn pryderon staff diogelwch G4S yng ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr fis Rhagfyr y llynedd.
Cafodd Libby Shankland ei chyfweld gan uwch-swyddog ar ôl cael ei hypsetio yn y gwaith yn dilyn “aflonyddwch cyffredinol” yn ei hadain.
Cyfaddefodd ei bod hi mewn perthynas ag Adnan Ali, oedd yn treulio pum mlynedd a hanner dan glo, a rhoddodd hi wybodaeth am garcharorion cyn gorfod ildio’i ffôn symudol.
Ond wrth iddi drosglwyddo’r ffôn, daeth sawl galwad gan Adnan Ali, gyda’i enw’n ymddangos ar y sgrîn yn ymyl sawl emoji calon.
Ymddiswyddodd hi ar Ragfyr 2, a daeth yr heddlu o hyd i 4,778 o negeseuon testun rhwng y ddau, lle’r oedden nhw’n fflyrtio ac yn cyfeirio at y ffaith fod y ddau wedi cusanu yn y carchar.
Roedd y ddau yn ystyried eu hunain yn gariadon, ac roedden nhw wedi bod yn trafod priodi a chael plant.
Dywedodd Libby Shankland ei bod hi’n ymwybodol fod gan Adnan Ali ffôn symudol yn y carchar, a’i fod wedi dechrau sgwrsio â hi ar Snapchat ar ôl cael hyd i’w rhif.
Dywedodd ymhellach eu bod nhw’n cyfathrebu’n gyson a’i bod hi’n ymwybodol ei fod e’n cymryd cyffuriau yn y carchar.
Dedfrydu
Plediodd hi’n euog yn ddiweddarach i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Wrth ei dedfrydu, dywedodd y barnwr fod y coronafeirws yn ystyriaeth wrth benderfynu peidio â charcharu Libby Shankland.
Cafodd hi ddedfryd o 12 mis o garchar wedi’i gohirio am 12 mis, a bydd rhaid iddi gwblhau 150 awr o waith di-dâl.