Bydd y mwyafrif o dafarndai yng Nghaernarfon yn aros ar gau’r wythnos nesaf gan nad oes digon o le gyda nhw i weini cwsmeriaid y tu allan a dilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol.

Dywedodd rheolwr un tŷ tafarn fod hi’n “amhosib i fwyafrif o dafarndai Caernarfon ail-agor tu allan yn unig”, a’i fod yn awyddus i gymryd ei amser i benderfynu pryd fydd hi’n saff i groesawi cwsmeriaid yn ôl.

Mae Golwg360 ar ddeall mai dim ond tri tŷ tafarn yn y dref sydd â threfniadau mewn lle i ail-agor wythnos nesaf dan reolau newydd Llywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i dafarndai, caffis, a bwytai yng Nghymru fedru gweini cwsmeriaid y tu allan o Orffennaf 13 ymlaen, ond fe fydd gwasanaethau dan do yn parhau ynghau am y tro.

Fe fydd y cyfyngiadau yn cael eu llacio ar yr amod bod achosion o’r coronafeirws yn parhau i leihau.

“Paratoi yn drylwyr”

Un o’r tafarndai fydd yn ail-agor tu allan yng Nghaernarfon ddydd Llun yw tafarn yr Anglesey.

Yn ôl perchennog yr Anglesey, Geoff Harvey, mae’r dafarn wedi addasu’n dda ers dechrau’r cyfnod clo, ac wedi “paratoi yn drylwyr” i ail-agor ddydd Llun.

Mae’r perchennog eisoes wedi bod yn trafod ei gynlluniau gyda’r cyngor lleol, ac wedi hysbysebu swyddi bar a gweini ychwanegol.

“Bydd ein staff i gyd yn gwisgo masgiau a menig, a bydd gwaith glanhau ychwanegol yn cael ei wneud.

“Bydd rhaid i bawb gofrestru ar gyfer y system olrhain cyswllt, a dilyn rheolau sydd wedi eu nodi yn glir ar ein bwydlenni ‘un defnydd’.

“Caniateir i ni agor y toiledau, ar sail un fewn un allan, a bydd y toiledau yn cael eu glanhau yn rheolaidd.”

“Rydym ni’n lwcus iawn bod gennym ni lawer o le tu allan yr Anglesey, ond bydd gofyn i bawb eistedd wrth fwrdd – ni fydd pobol yn cael sefyll gyda’u diodydd.

“Mi fydd bownsar hefyd ar y safle, a ni fyddwn yn oedi cyn gofyn i bobol adael os bydd unrhyw un ddim yn cadw at y rheolau.”

Eglurodd Geoff Harvey nad oedd ganddo unrhyw fwriad agor yn hwyr, ac mai gweini bwyd oedd ei brif flaenoriaeth.

“Wrth gwrs bydd pobol yn dod lawr yma am ddiod, ond rwy’n credu bydd pobol yn nerfus ac yn ofalus iawn.

“Mae pobol wedi dysgu i addasu, ac os bydd rhaid iddynt aros dwi’n credu bydd y cwsmeriaid yn deall y rhesymau.”

Bydd yr Anglesey yn gofyn i bobol adael os bydd unrhyw un ddim yn cadw at y rheolau newydd.

“Clec fawr i letygarwch”

Yn ystod y clo mawr mae tafarn y Black Boy yn y dref wedi bod yn cynnig llety i weithwyr allweddol, ac mae elusennau wedi bod yn defnyddio cegin y dafarn i greu prydau bwyd i’r gymuned leol.

Eglurodd y perchennog, John Evans, fod y dafarn wedi manteisio ar yr amser yma i wneud rhywfaint o waith cynnal a chadw, ond pwysleisiodd y bydd effeithiau Covid-19 i’w deimlo am flynyddoedd.

“Mae’r cyfnod yma wedi bod yn glec fawr i letygarwch,” meddai.

“Y peryg ydy nid be sy’n digwydd wythnos nesaf, ond be fydd yn digwydd yn y flwyddyn nesaf, mae dal yn gyfnod pryderus iawn i dafarndai ar draws y wlad.”

Yn ôl John Evans mae digon o le i hyd at 100 o gwsmeriaid i eistedd tu allan i dafarn y Black Boy, ond bydd cyfyngiadau llym mewn lle pan fydd y dafarn yn ail-agor ddydd Llun nesaf.

“Bydd barrier system yn cael ei osod dros y penwythnos yn barod ar gyfer wythnos nesaf.

“Bydd gorsafoedd er mwyn i staff fynd â chi i’ch bwrdd – er mwyn rheoli bob dim bydd rhaid i gwsmeriaid eistedd lawr wrth fwrdd tu allan i gael diod.”

Ychwanegodd John Evans ei fod yn croesawi dull pwyllog Llywodraeth Cymru o ail-agor tafarndai.

“Dwi’n meddwl bod yna ddau gamgymeriad i dafarndai yn Lloegr ei wneud – agor ar ddydd Sadwrn oedd un – ac agor y tu fewn yn syth oedd y llall.”

Dyddiau yn unig wedi i dafarndai agor yn Lloegr bu rhaid i dri sefydliad hysbysu eu cwsmeriaid eu bod wedi gorfod cau eto oherwydd achosion o Covid-19.

“Wedi archebu cwrw bythefnos yn ôl”

Bydd Tafarn yr Albert yng Nghaernarfon hefyd yn ailagor ddydd Llun.

Eglurodd Elsa Roberts-Jones, sydd yn rhedeg y dafarn gyda’i merch Shannon Roberts-Simpson, bod y gwaith paratoi i ail-agor eisoes wedi dechrau.

“Rydan ni wedi marcio’r ardd gwrw bob dwy fetr, ac wedi adeiladu lle i gysgodi yno”, meddai Elsa Roberts-Jones.

“Rydan ni wedi archebu cwrw bythefnos yn ôl, a byddwn ni’n ailagor am oriau cyfyngedig yn unig i ddechrau dwi’n credu, efallai bydd rhaid i gwsmeriaid archebu byrddau.

“Mae yna dal bethau mae angen i ni drafod gyda’n trwydded ni a’r cwmni yswiriant.

Mae Golwg360 ar ddeall fod tafarn y Morgan Lloyd a Gwesty’r Castell yn y dref hefyd yn ystyried ail-agor, ond fod trafodaethau yn parhau rhwng y tafarndai a chwmnïau yswiriant i weld a fydd hyn yn bosib.

Bydd y Twthill ddim yn ail agor gan nad oes digon o le gyda nhw i weini cwsmeriaid y tu allan.

“Gweld beth sy’n digwydd yn Lloegr”

Ymhlith y tafarndai yng Nghaernarfon sydd wedi cadarnhau wrth Golwg360 na fydden nhw’n ailagor mae tafarn y Twthill.

Eglurodd rheolwr y Twthill, Mark Harvey Georgenson, a oedd yn siarad â Golwg360 o ynys Tenerife, na fyddai’r dafarn yng Nghaernarfon yn ail-agor ddydd Llun gan nad oedd lle ganddo i osod byrddau a chadeiriau y tu allan i’r dafarn.

“Mae’n amhosib i fwyafrif o dafarndai Caernarfon ailagor tu allan yn unig – does gennym ni ddim lle tu allan er mwyn ailagor – efallai yn y pen draw bydd rhaid i ni holi i’r cyngor i roi lle i gwsmeriaid eistedd tu allan ar y stryd.”

Eglurodd ei fod yn awyddus i weld sut y bydd tafarndai eraill yn dygymod ag ailagor dros yr wythnosau nesaf.

“Cyn ailagor dwi’n awyddus i weld beth sy’n digwydd yn Lloegr”, meddai.

“Mae’n debyg fod pethau wedi mynd ychydig allan o reolaeth yno penwythnos diwethaf.

“Dwi hefyd eisiau gweld sut bydd pethau yn gweithio yng Nghymru pan fydd tafarndai yn ail-agor tu allan.”

Yn ôl Mark Harvey Georgenson mae landlordiaid y dref mewn cyswllt cyson â’i gilydd, a pwysleisiodd y pwysigrwydd o gydweithio er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch eu cwsmeriaid.

“Mae genym ni grŵp er mwyn trafod pethau fel covid rhwng tafarndai yng Nghaernarfon, ac mae’n braf ein bod ni’n medru gwneud hynny.”

Mae tafarn y Pen Deitsh yn y dref wedi cadarnhau na fydd yn ailagor tan o leiaf ddiwedd y mis, a does dim disgwyl i Bar Bach, tafarn lleiaf Cymru, ail-agor ei drysau i gwsmeriaid nes ddiwedd y flwyddyn.

Ychwanegodd rheolwr y Twthill: “Dwi’n gobeithio bydd modd cael ychydig o rybudd gan y Llywodraeth er mwyn ail-agor yn llawn – bydd angen rhai wythnosau er mwyn paratoi yn iawn.”

Pan holwyd a fyddai modd sicrhau bod pobol yn cadw pellter cymdeithasol ar ôl yfed dywedodd “y gwir ydy does dim ffordd o reoli pobol sydd wedi bod yn yfed, bydd rhaid i ni addasu a gweld sut bydd pethau yn gweithio.”

Cadw rheolaeth ac osgoi trafferthion

Yn ôl Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, mae perchnogion tafarndai Cymru yn ddigon abl i gadw rheolaeth ar eu cwsmeriaid sychedig.

Yng nghynhadledd wasg wythnos diwethaf, fodynnwyd i’r Gweinidog a oedd sicrwydd bod tafarndai yn medru ailagor yn ddiogel o ystyried effaith alcohol ar bobol.

Rhannodd hithau ei theimlad o hyder.

“Yn ystod ein sgyrsiau â’r sector maen nhw wedi dweud yn glir – o ran rheoli’r sefyllfa os eith pethau dros ben llestri – mai dyma yw eu bara menyn,” meddai.

“Dyna maen nhw’n ei wneud ddydd ar ôl dydd. Felly mae’n rhaid i ni edrych ar y balans rhwng rheoli yfed mewn amgylchedd sydd dan reolaeth, ac osgoi golygfeydd fel y gwelsom yn Aberogwr.

“Mae gan bobol sydd â phrofiad o redeg tafarndai well syniad o sut i reoli pobol yn y sefyllfa yna ag alcohol.”

Gweddill y Deyrnas Unedig

O holl wledydd y Deyrnas Unedig, Cymru yw’r unig wlad lle nad oes dyddiad ailagor ar gyfer y diwydiant lletygarwch.

Croesawodd tafarndai Lloegr a Gogledd Iwerddon yfwyr am y tro cyntaf y penwythnos diwethaf ar ôl i’r sector lletygarwch gau ym mis Mawrth.

Yn yr Alban cafodd gerddi tafarndai a bwytai sydd â lle i weini bwyd y tu allan ailagor ar Orffennaf 6.

Bydd modd i dafarndai a bwytai yn yr Alban ailagor gwasanaethau dan do o Orffennaf 15 ymlaen.

Os yw achosion o’r coronafeirws yn parhau i ostwng mae disgwyl cyhoeddiad ddydd Gwener (Gorffennaf 10) i gadarnhau a fydd tafarndai a bwytai yng Nghymru yn cael gweini cwsmeriaid y tu allan o Orffennaf 13 ymlaen.