Mae’r rhan fwyaf o fyrddau iechyd Cymru yn methu â chyflawni eu dyletswydd ariannol i beidio â gorwario, yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol.

Gofynnwyd i’r byrddau gadw’u pennau uwchlaw’r dŵr dros dair blynedd, ac mi fethodd byrddau Hywel Dda, Betsi Cadwaladr, a Bae Abertawe (Abertawe Bro Morgannwg gynt).

Mi wnaeth Bwrdd Caerdydd a’r Fro fethu hefyd, ond mae’r bwrdd wedi cael ei ganmol am wneud gwelliannau. Llwyddodd y tri bwrdd arall i beidio â gorwario.

Dros gyfnod y tair blynedd, cwympodd gorwariant Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru o £411 miliwn i £352 miliwn.

Sylwadau’r Archwilydd

Mae’r Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, wedi dweud ei fod yn “croesawu unrhyw welliant i gyflwr ariannol” GIG Cymru, ond mae’n ofidus am ei gasgliadau.

“Rwy’n pryderu am y ffaith bod sawl bwrdd iechyd yn dal i gofnodi diffygion blynyddol er gwaethaf ambell gynnydd sylweddol yn y cyllid a gânt,” meddai.

“Wrth edrych i’r dyfodol, mae’n amlwg bod GIG Cymru yn wynebu her enfawr wrth geisio gwella ei berfformiad ariannol a mynd i’r afael ar yr un pryd ag effeithiau eithriadol y pandemig COVID-19.

“Byddaf yn monitro ei gynnydd yn ofalus drwy gydol 2020-21 ac yn cyhoeddi diweddariadau fel y bo’n briodol.”

Archwilio

Yr Archwilydd Cyffredinol sy’n gyfrifol am ymchwilio i sut mae arian cyhoeddus datganoledig yn cael ei wario yng Nghymru.

Caiff yr adroddiad dan sylw ei gyhoeddi heddiw.