Mae Undeb Unite wedi cadarnhau y bydd cwmni Northwood Hygine Products yn symud y gwaith o gynhyrchu papur tŷ bach o ffatri Penygroes ger Caernarfon i ffatrïoedd eraill y cwmni yn Lloegr.

Daeth cyhoeddiad ar Fai 26 y byddai’r ffatri yn Nyffryn Nantlle, sy’n cyflogi 94 o bobol, yn cau o ganlyniad i gwymp sylweddol mewn gwerthiant yn sgil y coronafeirws.

Er i 2,000 o bobol arwyddo deiseb yn galw ar y cwmni i ailystyried, ac i gymuned Dyffryn Nantlle gynnal protest i ddangos eu cefnogaeth i weithwyr, daeth cadarnhad heddiw (Goffennaf 2) bod ymdrech yr undeb i achub y swyddi yn y ffatri yng Ngwynedd wedi bod yn aflwyddiannus.

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Unite bod disgwyl i’r cwmni sydd â ffatrïoedd yn Telford, Oldham, Birmingham, Lancaster a Bromsgrove gau’r ffatri ym Mhenygroes erbyn yr Hydref.

Ni fydd y ffatrïoedd yn Lloegr yn cau.

“Ergyd enfawr i’r economi leol”

Fis diwethaf trefnwyd cyfarfod brys gan yr Aelod o’r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian, a’r Aelod Seneddol lleol, Hywel Williams, gyda rheolwyr y cwmni er mwyn cynnig cymorth i’r ffatri a’r gweithwyr.

Rhybuddiodd y gwleidyddion byddai cau’r ffatri yn “ergyd enfawr i’r economi leol”.

“Nid dyma ddiwedd y mater”

Ac heddiw (dydd Iau 2 Gorffennaf), yn dilyn y cyhoeddiad gan Undeb Unite, dywedodd Sian Gwenllian a Hywel Williams mai “nid dyma ddiwedd y mater”:

“Mae hyn yn newyddion siomedig iawn ac yn ergyd gwirioneddol i’r ymdrechion i ddiogelu’r naw deg pedwar o swyddi lleol.

“Mae cryn dipyn o waith lobïo wedi bod yn digwydd y tu ôl i’r llenni i sicrhau cefnogaeth ar draws pob lefel o lywodraeth i geisio amddiffyn y gweithlu medrus ym Mhenygroes ar adeg pan na all yr economi leol fforddio ergyd mor sylweddol.

“Byddwn yn cysylltu a’r frys â Llywodraeth Cymru i archwilio pa opsiynau a chefnogaeth hirdymor amgen sydd ar gael a byddem yn annog Northwood i barhau â’r ymgysylltu.

“Mae bywoliaeth pobol yn y fantol.”