Mae’r chwaraewr rygbi croenddu o Gymru, Ashton Hewitt wedi cwestiynu pa mor hawdd yw hi i gelwydd gael ei dderbyn ar y cyfryngau cymdeithasol, ar ôl iddo gael ei sarhau gan Katie Hopkins.

Fe ddaeth i’r amlwg fod y sylwebydd blaenllaw wedi cael ei gwahardd o wefan gymdeithasol Twitter ar ôl gwneud sylwadau hiliol am asgellwr y Dreigiau.

Roedd hi wedi ei gyhuddo yntau o “fygythiad o natur rywiol o drais” yn ei herbyn.

“Dywedodd hi hynny ar y newyddion,” meddai Ashton Hewitt.

“Ac fe wnaethon nhw ei lyncu.

“Ydy hi mor hawdd â hynny i gelwydd gael ei dderbyn?”

Eglurhad Katie Hopkins

Roedd sylwadau Ashton Hewitt yn dilyn ffrae ar Twitter ar ôl i Katie Hopkins siarad â’r cyfryngau yn Awstralia.

Dyma’i chyfweliad cyntaf ers iddi gael ei gwahardd gan Twitter.

Mae’n dweud iddi gael ei gwahardd am awgrymu bod genitalia’r chwaraewr rygbi “fel babwn”.

Ond mae’n dweud iddi ddefnyddio’r disgrifiad “wrth ymateb i fygythiad o natur rywiol o drais yn fy erbyn”.

“Mae nifer o bobol yn gwybod fod menywod ceidwadol fel fi yn derbyn y bygythiadau hynny,” meddai.

Mae’n dweud bod yr ymadrodd “hung like a baboon” yn dod o’r gyfres gomedi Blackadder, a’i fod yn ymddangos yn yr Urban Dictionary i ddisgrifio “cryfder y ceilliau”.