Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i chwilio am ddyn 21 oed o Abergwaun sydd ar goll.

Cafodd Billy Miller ei weld ddiwethaf am 2.20yb ddydd Sul (Mehefin 21) yn cerdded ar hyd Stryd y Bont tuag at harbwr Dinbych y pysgod.

Yn ogystal â thimau cŵn ac awyr yr heddlu, mae’r Bad Achub a Gwylwyr y Glannau hefyd yn rhan o’r ymdrechion i ddod o hyd i Billy Miller.

Mae’r heddlu bellach wedi cyhoeddi lluniau camerâu cylch-cyfyng o Billy yn archfarchnad Sainsburys yn Ninbych-y-pysgod, a gafodd eu tynnu rhwng 8.30yh ac 8.45yh nos Sadwrn (Mehefin 20).

“Mae’r chwilio am Billy yn parhau,” meddai’r Arolygydd Reuben Palin.

“Gobeithio, trwy gyhoeddi’r lluniau, y bydd modd atgoffa y rheini a welodd e.

“Rydym yn apelio ar unrhyw un a oedd yng nghanol tref Dinbych-y-pysgod nos Sadwrn a bore Sul i gysylltu.”

Mae Billy Miller yn cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, tua phum troedfedd wyth modfedd o daldra, o gorffolaeth denau a chanddo wallt brown byr.

Cafodd ei weld ddiwethaf yn gwisgo jîns glas tynn wedi rhwygo a chrys chwys llwyd.