Yn dilyn cyhoeddiad Arweinydd y Tŷ Cyffredin, Jacob Rees-Mogg y byddai system newydd, sydd yn caniatáu i Aelodau Seneddol siarad a phleidleisio o gartref, yn dod i ben, mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon wedi cyhuddo’r llywodraeth o fod yn “unllygeidiog.”

Mewn cyfweliad â Golwg360 dywedodd yr Aelod Seneddol ei fod yn bryderus iawn am yr effaith gall y newid ei gael ar Aelodau Seneddol o Gymru.

“Mae’r dewis yn enghraifft o agwedd un llygeidiog gan y llywodraeth”, meddai.

“Mae’r drefn newydd yn golygu bydd rhaid i Aelodau Seneddol o Gymru anwybyddu’r cyfyngiadau sydd mewn lle yma er mwyn teithio i Lundain!

“Dydy’r system siarad a phleidleisio o gartref ddim yn berffaith, ond mae’n ymarferol ac yn gweithio.

“Mae dewis Jacob Rees-Mogg yn mynd a ni nôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn hytrach na symud ni i’r unfed ganrif ar hugain.”

“Mae’n rhaid i mi bwysleisio nid gwrthod mynd ydym ni, ond mai nhw [Llywodraeth y Deyrnas Unedig] sydd wedi cael gwared ar drefniant oedd yn gweithio yn iawn [o ran] dygymod a’r sefyllfa bresennol.”

“Sefyllfa amhosib”

Eglurodd Hywel Williams na fydd dewis ganddo ond teithio i Lundain er mwyn gwneud ei waith a chynrychioli ei etholaeth, a hynny er ei fod wedi gwrthwynebu pobol yn teithio o Loegr i Gymru er mwyn lleihau ymlediad y coronafeirws.

“Mae’n sefyllfa anodd tu hwnt, ac yn rhoi ni fel Aelodau Seneddol o Gymru mewn sefyllfa amhosib.

“Er mwyn gwneud fy ngwaith fydd dim dewis gen i ond teithio lawr i Lundain.”

Ychwanegodd yr Aelod Seneddol fod y llywodraeth nid yn unig wedi diystyru aelodau o Gymru, ond hefyd y rheini sydd yn gorfod hunanynysu er mwyn gwarchod aelodau bregus o’u teulu.

Effaith ddifrifol

Mae’r Gymdeithas Etholiadol hefyd wedi rhybuddio y gallai’r newid gael effaith ddifrifol ar Aelodau Seneddol o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd Darren Hughes, Prif Weithredwr y Gymdeithas Diwygio Etholiadol: “Dros y mis diwethaf, mae Aelodau Seneddol wedi dangos eu bod nhw’n gallu gweithio o gartref.

“Mae’r gwrthbleidiau’n iawn i ofyn i’r llywodraeth i ailfeddwl eu cynlluniau i gael gwared â’r system.”