Cyhoeddi enw dynes fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd

Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi enw dynes fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Tachwedd 28).

Bu farw Danielle Andrews, 28 oed o ardal Rhiwbeina y brifddinas, yn y gwrthdrawiad ger cylchfan Coryton.

Dywed y teulu ei bod hi’n ferch, wyres a nith.

“Roedd gan Danielle gysylltiadau â’r Cymoedd ac ardal Caerdydd a bydd colled ar ei hôl ymhlith ei ffrindiau niferus.

“Roedd ganddi synnwyr digrifwch da a byddai hi’n gwneud ffrindiau’n hawdd.

“Mae hi wedi cael ei chymryd yn rhy fuan o lawer o’n bywydau ac rydym yn torri’n calonnau oherwydd ei marwolaeth, ac yn gobeithio ei bod hi wedi darganfod heddwch nawr.”

Mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau, a dylai unrhyw un â gwybodaeth eu ffonio ar 101.

Coronafeirws: 23 o farwolaethau, 667 o achosion yng Nghymru heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 1)

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi 23 yn rhagor o farwolaethau yn eu ffigurau coronafeirws dyddiol heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 1).

Mae’n mynd â’r cyfanswm ers dechrau’r ymlediad yn y wlad i 2,563.

Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi 667 o achosion newydd, sy’n mynd â’r cyfanswm hwnnw i 81,009.

Ond dydy’r ffigurau ddim yn debygol o fod yn fanwl gywir yn sgil y ffordd y caiff achosion a marwolaethau eu cofnodi a’u hadrodd.

Adam Price

“Diffyg rhesymeg” yng nghyfyngiadau coronafeirws Rhagfyr Cymru

Plaid Cymru’n galw am gyfaddawd i helpu’r diwydiant lletygarwch

Darllen rhagor

Cyhoeddi trefniadau Cwpan Nathaniel MG

Bydd y rownd gyntaf yn cael ei chynnal ar benwythnos Rhagfyr 12, a daeth cadarnhad y bydd Caerdydd a Chasnewydd yn ymuno yn y gystadleuaeth

Darllen rhagor

  2

Penodi Rhodri Talfan Davies yn Gyfarwyddwr Cenhedloedd y BBC

“Mae’n arweinydd penigamp ac fe ddaw â phrofiad golygyddol a strategol helaeth i’w swydd newydd”

Darllen rhagor

Gostyngiad yn nifer y teithwyr sy’n defnyddio gorsaf brysuraf Cymru

Er i 12.6m o bobol deithio drwy’r orsaf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, roedd gostyngiad o fwy na 263,000 o’i gymharu â’r llynedd

Darllen rhagor

Cau siopau Debenhams yn “newyddion difrifol i Fangor”

Mae’r cwmni am gau eu 124 o siopau yng ngwledydd Prydain wrth i’r cwmni gael ei ddirwyn i ben

Darllen rhagor

Cwsmeriaid yn barod i dalu pris uwch am gig eidion o ansawdd, yn ôl ymchwil

Mae “tystiolaeth gadarn bod cwsmeriaid yn gallu gwahaniaethu” rhwng safon cig eidion

Darllen rhagor

Elfyn Evans ar drothwy buddugoliaeth fawr

Fe allai ddod yn bencampwr byd cyntaf Cymru ym myd ralio

Darllen rhagor

Ymchwiliad i Gynllun Ynni Llanw Môn

Gallai’r cynllun ddatblygu i fod ymhlith y mwyaf o’i fath yn y byd

Darllen rhagor