Coronafeirws: Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cyhoeddi 24 yn rhagor o farwolaethau (dydd Sul, Chwefror 28)

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi 28 yn rhagor o farwolaethau Covid-19 heddiw (dydd Sul, Chwefror 28).

Mae’n golygu eu bod nhw wedi cyhoeddi cyfanswm o 5,340 o farwolaethau yn y wlad ers dechrau’r ymlediad.

Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi 247 yn rhagor o achosion, sy’n mynd â’r cyfanswm hwnnw i 203,625.

Ond dydy’r ffigurau ddim yn debygol o fod yn fanwl gywir yn sgil y ffordd y caiff achosion a marwolaethau eu cofnodi a’u hadrodd.

Sbaen am ddifa cannoedd o wartheg sy’n anaddas i’w hallforio

Mae 895 o wartheg wedi treulio deufis ar long yn y Môr Canoldir

Darllen rhagor

Susan Smith ar goll rhwng Llanismel a Glanyfferi

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth am ddynes sydd ar goll.

Cafodd Susan Smith ei gweld ddiwethaf am 1.30 brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 27) yn cerdded ger pentref gwyliau Bae Caerfyrddin yng Nghydweli.

Mae hi’n arfer cerdded ar hyd y traeth rhwng Llanismel a Glanyfferi.

Mae hi’n 5’2″, o gorffolaeth fach ac mae ganddi wallt golau at ei hysgwyddau.

Pan gafodd ei gweld ddiwethaf, mae lle i gredu ei bod hi’n gwisgo jîns du, siaced wlannog ddu ac esgidiau cerdded glas a llwyd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.

Johnny Briggs

Marw’r actor Johnny Briggs

Roedd yn fwyaf adnabyddus fel Mike Baldwin yn Coronation Street

Darllen rhagor

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Anfon gweithiwr wnaeth gymharu sefyllfa’r Gymraeg ag apartheid yn ôl i’w swydd wreiddiol

Roedd James Moore, sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Ambiwlans, wedi bod ar secondiad gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Darllen rhagor

Llun o Eddie Jones yn gwenu

Cymru v Lloegr: “fydd y ci dim yn gallu bwyta’i fwyd, na’r wraig”

Eddie Jones yn gwrthod beio’r dyfarnwr ac yn ofni’r canlyniadau posib pe bai’n gwneud hynny ar ôl i Loegr golli

Darllen rhagor

Gallai Cymru weld y cynnydd mwyaf ym mhrisiau tocynnau tymor ar drenau

Mae disgwyl i’r pris ar gyfer tocyn tymor teithiau rhwng Castell-nedd a Chaerdydd, a Bangor a Llandudno, godi’n sylweddol

Darllen rhagor