Coronafeirws: Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cyhoeddi 24 yn rhagor o farwolaethau (dydd Sul, Chwefror 28)
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi 28 yn rhagor o farwolaethau Covid-19 heddiw (dydd Sul, Chwefror 28).
Mae’n golygu eu bod nhw wedi cyhoeddi cyfanswm o 5,340 o farwolaethau yn y wlad ers dechrau’r ymlediad.
Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi 247 yn rhagor o achosion, sy’n mynd â’r cyfanswm hwnnw i 203,625.
Ond dydy’r ffigurau ddim yn debygol o fod yn fanwl gywir yn sgil y ffordd y caiff achosion a marwolaethau eu cofnodi a’u hadrodd.
Sbaen am ddifa cannoedd o wartheg sy’n anaddas i’w hallforio
Mae 895 o wartheg wedi treulio deufis ar long yn y Môr Canoldir
Darllen rhagorSusan Smith ar goll rhwng Llanismel a Glanyfferi
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth am ddynes sydd ar goll.
Cafodd Susan Smith ei gweld ddiwethaf am 1.30 brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 27) yn cerdded ger pentref gwyliau Bae Caerfyrddin yng Nghydweli.
Mae hi’n arfer cerdded ar hyd y traeth rhwng Llanismel a Glanyfferi.
Mae hi’n 5’2″, o gorffolaeth fach ac mae ganddi wallt golau at ei hysgwyddau.
Pan gafodd ei gweld ddiwethaf, mae lle i gredu ei bod hi’n gwisgo jîns du, siaced wlannog ddu ac esgidiau cerdded glas a llwyd.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.
Missing Person: Susan Smith,last seen 1.30pm,Sat 27th Feb,walking in the Caravan Bay Holiday Village, Kidwelly area. She is known to walk along the beach to St Ishmaels & Ferryside & is believed to be wearing black jeans,a black fleece type jacket & navy & grey walking boots. pic.twitter.com/bd7f1xLVo8
— Heddlu Dyfed-Powys Police (@DyfedPowys) February 28, 2021
Llai o blaid annibyniaeth i’r Alban, yn ôl pôl gan Survation
50% o blaid, yn ôl y pôl ar gyfer y Sunday Mail
Darllen rhagorMarw’r actor Johnny Briggs
Roedd yn fwyaf adnabyddus fel Mike Baldwin yn Coronation Street
Darllen rhagorAnfon gweithiwr wnaeth gymharu sefyllfa’r Gymraeg ag apartheid yn ôl i’w swydd wreiddiol
Roedd James Moore, sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Ambiwlans, wedi bod ar secondiad gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Darllen rhagorY Swyddfa Dramor yn hybu’r Gymraeg, y celfyddydau, addysg a busnes ar Ddydd Gŵyl Dewi
Sectorau sydd wedi’u taro’n wael gan ymlediad y coronafeirws
Darllen rhagorCymru v Lloegr: “fydd y ci dim yn gallu bwyta’i fwyd, na’r wraig”
Eddie Jones yn gwrthod beio’r dyfarnwr ac yn ofni’r canlyniadau posib pe bai’n gwneud hynny ar ôl i Loegr golli
Darllen rhagorGallai Cymru weld y cynnydd mwyaf ym mhrisiau tocynnau tymor ar drenau
Mae disgwyl i’r pris ar gyfer tocyn tymor teithiau rhwng Castell-nedd a Chaerdydd, a Bangor a Llandudno, godi’n sylweddol
Darllen rhagor