Ymchwilio i ffrwgwd sylweddol a threisgar yng nghanol Caerdydd

Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i ffrwgwd sylweddol yng nghanol dinas Caerdydd neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 21).

Cafodd yr heddlu wybod am y digwyddiad treisgar ar Heol y Frenhines am oddeutu 9.50yh.

Aeth chwech o bobol i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ag anafiadau amrywiol.

Cafodd un person anafiadau i’r pen ac mae mewn cyflwr difrifol, tra bod tri o bobol eraill wedi cael eu trywanu.

Cafodd dau o bobol eraill anafiadau llai difrifol.

Mae dau o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o annhrefn dreisgar ac maen nhw’n cael eu holi yn y ddalfa ym Mae Caerdydd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.

Galw am wfftio’r posibilrwydd o rewi cyflogau’r sector cyhoeddus

Llywodraeth Cymru eisiau i Lywodraeth Prydain roi digon o arian i warchod iechyd, swyddi ac adferiad economaidd

Darllen rhagor

‘Cam i’r cyfeiriad cywir’ i dîm Wayne Pivac

“Cafwyd rhai perfformiadau da, ond roedd ein perfformiad ymhell o fod yn berffaith,” meddai Prif Hyfforddwr Cymru

Darllen rhagor

Crynodeb Cymru Premier (20/11/20 – 21/11/20)

Golwg ar gemau’r penwythnos yn Uwch Gynghrair Cymru

Darllen rhagor

Cymru 18-0 Georgia

Tîm arbrofol Wayne Pivac yn fuddugol yn erbyn Georgia

Darllen rhagor

Doc Albert, Lerpwl

Arestio 15 o bobol yn Lerpwl am dorri rheolau’r coronafeirws yn dilyn protest

Bu’n rhaid i’r heddlu ymdrin â thorf o bobol yng nghanol y ddinas

Darllen rhagor

Arestio dyn wedi marwolaeth dynes mewn carafan yn Ninbych y Pysgod

Cafodd yr heddlu eu galw neithiwr (nos Wener, Tachwedd 20)

Darllen rhagor

Coronafeirws: 28 yn rhagor wedi marw a 1,016 o achosion newydd yng Nghymru

Mae 28 yn rhagor o bobol wedi marw yng Nghymru, yn ôl ffigurau coronafeirws dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 21).

Mae’n golygu bod 2,365 o bobol wedi marw yn y wlad ers dechrau’r ymlediad.

Maen nhw wedi adrodd am 1,016 o achosion newydd, sy’n mynd â’r cyfanswm hwnnw i 71,533.

Ond dydy’r ffigurau ddim yn debygol o fod yn fanwl gywir yn sgil y ffordd y caiff achosion a marwolaethau eu hadrodd a’u cofnodi.