Coronafeirws: dim marwolaethau heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 12)

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 12) na fu unrhyw farwolaethau yn sgil y coronafeirws dros y 24 awr diwethaf.

Mae 16 o achosion newydd wedi’u cyhoeddi, sy’n mynd â’r cyfanswm i 15,962.

1,541 o bobol sydd wedi marw yn y wlad ers dechrau’r ymlediad, yn ôl y ffigurau.

Ond dydy’r ffigurau swyddogol ddim yn debygol o fod yn fanwl gywir yn sgil y ffordd mae achosion a marwolaethau’n cael eu hadrodd a’u cofnodi.

 

Daearyddiaeth Haen 3 cynghreiriau pêl-droed Cymru’n peri trafod

Mae’r cynghreiriau, sydd wedi’u trefnu yn ôl pedair rhanbarth, yn “gwneud mwy o synnwyr ar y map” yn ôl y colofnydd Phil Stead

Darllen rhagor

Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban ac arweinydd yr SNP

Nicola Sturgeon ddim yn ofni rhoi ymwelwyr o Loegr dan gwarantîn

Ond prif weinidog yr Alban yn dweud na fyddai’n benderfyniad hawdd

Darllen rhagor

Apêl yn dilyn achos honedig o drywanu yng Nghaerdydd

Mae’r heddlu’n ymchwilio i achos honedig o drywanu yn ardal Grangetown yng Nghaerdydd.

Cawson nhw eu galw am oddeutu 4.15yb fore heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 12).

Cafodd dyn 19 oed ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau i’w goesau, ac mae e mewn cyflwr sefydlog.

Does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.

Map o India

Tad a mab sy’n sêr Bollywood wedi profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws

Amitabh ac Abhishek Bachchan yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ym Mumbai

Darllen rhagor

Llun pen ac ysgwydd o'r gwleidydd, ar gefndir gwyn

Priti Patel am amlinellu system bwyntiau i fewnfudwyr

Y Blaid Lafur yn dweud bod ganddyn nhw “bryderon gwirioneddol”

Darllen rhagor

Cyn-bennaeth MI6 “yn falch fod Jeremy Corbyn wedi mynd”

Syr Richard Dearlove yn cefnogi’r arweinydd newydd Syr Keir Starmer

Darllen rhagor

Gwrthod galwadau i gynnal pleidlais ar ffiniau Iwerddon

Byddai’n creu rhwyg, yn ôl y Taoiseach Micheal Martin

Darllen rhagor

Geraint Vaughan Jones

gan Non Tudur

Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen deirgwaith

Darllen rhagor

Steve Cooper

Abertawe v Leeds: “Ras am y gemau ail gyfle yw’r hyn mae pawb eisiau ei gweld”

Gêm fawr i’r Elyrch yn Stadiwm Liberty heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 12)

Darllen rhagor