Apêl yn dilyn marwolaeth gyrrwr 84 oed yn Abertawe
Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn 84 oed farw yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Gorseinon ger Abertawe fore heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 23).
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ger canolfan geir CEM Day ar Ffordd Abertawe am oddeutu 11.15yb.
Cafodd gyrrwr 84 oed car Honda Jazz lliw arian ei gludo i Ysbyty Treforys ag anafiadau difrifol, ac fe fu farw’n ddiweddarach.
Cafodd dyn 39 oed, gyrrwr Jaguar XF lliw du, anafiadau ond does dim lle i gredu eu bod nhw’n ddifrifol.
Mae teulu’r dyn fu farw wedi cael gwybod ac maen nhw’n derbyn cefnogaeth gan yr heddlu.
Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan ddau ddyn mewn car Ford Focus oedd wedi’i barcio ger safle’r gwrthdrawiad ar y pryd, ac maen nhw hefyd yn apelio am wybodaeth a deunydd dashcam.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.
Car trydan cymunedol yn cyrraedd tîm Dyffryn Gwyrdd ym Methesda
“Mae prosiectau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r amgylchedd, i fywydau pobol ac i ysbryd gymunedol”
Darllen rhagorPlaid Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi codiad cyflog i ofalwyr yng Nghymru
Byddai rhoi codiad cyflog i weithwyr gofal yn “flaenoriaeth” i Lywodraeth Plaid Cymru, yn ôl Adam Price
Darllen rhagor“Does gan Gareth Bale ddim byd i’w brofi,” medd Jose Mourinho
Rheolwr Spurs yn ffyddiog y gall “rhinweddau arbennig” y Cymro helpu’r clwb cyn diwedd y tymor
Darllen rhagorCogydd o Gaernarfon yn gwireddu ei freuddwyd drwy agor bwyty o safon i bawb
“Dydi bwyd ddim yn ecsgliwsif i bobol sy’n gallu fforddio fo, mae bwyd i fod yna i bawb”
Darllen rhagorMarwolaeth yr asiant MI6 Gareth Williams i gael ei hadolygu
Heddlu Llundain yn cyhoeddi bod tystiolaeth newydd wedi dod i’r amlwg
Darllen rhagorPlismones wedi’i diswyddo am dorri cyfyngiadau’r coronafeirws
Tasia Stephens, 24, wedi mynd i barti teulu cyn yfed a gyrru a tharo i mewn i adeilad
Darllen rhagorAlun Davies yn ailymuno â grŵp Llafur ar ôl helynt yfed yn y Senedd
Daeth ymchwiliad Comisiwn y Senedd i’r casgliad fod pum unigolyn wedi yfed alcohol ar ystâd y Senedd
Darllen rhagorCadarnhau dechrau llwybr yr Alban allan o gyfyngiadau’r coronafeirws
Y prif weinidog Nicola Sturgeon wedi bod yn amlinellu ei bwriad
Darllen rhagorDyn 28 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o dreisio merch dan 16 oed
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhyddhau’r dyn ar fechnïaeth yn dilyn y digwyddiad dros y penwythnos
Darllen rhagor