Mae’r ferch 34 oed o’r Bont-faen wedi ymddangos mewn sawl cyfres deledu gan gynnwys Pobol y Cwm.

A phan nad ydi hi yn actio, mae hi’n canu, perfformio gyda chriw Cabarela a chyflwyno rhaglenni megis Mwy na Daffs a Taffs ar Hansh, sy’n addo dod â selebs ynghyd i gladdu’r clichés arferol am Gymru…