Yn ddiweddar fe gafodd Esgob 58 oed Bangor ei orseddu yn Archesgob Cymru.

Yn ogystal â phregethu mewn eglwysi, yn ei ieuenctid yn Aberystwyth roedd yn chwarae’r gitâr mewn band roc, ac mae ganddo datŵ difyr…

Beth yw gwaith Archesgob Cymru?

Yr Archesgob ydy’r un sydd yn dod â’r esgobion at ei gilydd, sydd yn Llywydd y Corff Llywodraethol ac sydd hefyd yn cynrychioli’r Eglwys yng Nghymru yn nheulu’r gymuned Anglicanaidd.