Mae Pennaeth Lles a Chynhwysiad 28 oed Ysgol Uwchradd y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, i’w weld ar S4C ar hyn o bryd, ar Ysgol Ni: Y Moelwyn.

Bu yn bêl-droediwr dawnus ac mae bellach yn rheoli tîm Nantlle Vale ym Mhenygroes, Gwynedd, lle mae yn byw gyda Sara a’i feibion Caio a Guto…

Wnaethoch chi wylio’r gyfres flaenorol, Ysgol Ni: Maesincla, wnaeth ennill gwobr BAFTA am ddangos ysgol gynradd yng Nghaernarfon?

Do, ac roedd o’n ffantastig.