Fe gafodd y gantores 39 oed, Gwen Màiri, ei magu ar aelwyd Gymraeg yn St Andrews yn yr Alban, ac mae yn byw yng Nglasgow – ond mae ganddi gysylltiadau clos gyda’r sîn werin yng Nghymru…

O le ddaeth y syniad ar gyfer recordio caneuon Nadoligaidd o Wlad y Basg?

Roeddwn i wedi bod yn chwarae un ohonyn nhw – ‘Oi Betleem!’ – gyda geiriau Saesneg ers blynyddoedd, ac yn gyfarwydd gyda’r diwn.