Fe wnaeth awdures ifanc o Ddyffryn Nantlle gryn argraff gyda’i nofel gyntaf, gan ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn ddwy flynedd yn ôl.

Ac eleni mae Megan Angharad Hunter yn un o feirniaid y gystadleuaeth, ac wrthi’n gweithio ar nofel arall i oedolion ifanc a llyfr gwyddonias i blant.

Wedi graddio’r llynedd mewn Cymraeg ac Athroniaeth o Brifysgol Caerdydd, mae Megan yn awdur llawrydd a newydd ddychwelyd i fyw yn y brifddinas.

Mae’r ferch 24 oed o Benygroes yng Ngwynedd i’w chlywed yn canu ar draciau band electro-roc ei hewythr draw yn yr Unol Daleithiau.

Tad Megan ydy’r awdur a’r academydd Jerry Hunter, a daw’r teulu o Cincinnati, Ohio, ac mae hi’n tybio’i fod wedi cael dylanwad arni a’i sgrifennu, yn enwedig wrth ei chymell i arbrofi gydag iaith. Mae hanner ei nofel lwyddiannus tu ôl i’r awyr wedi’i sgrifennu mewn iaith anffurfiol a thafodieithol iawn, tra bo’r hanner arall mewn arddull mwy traddodiadol.

“Roeddwn i’n darllen lot ers oeddwn i’n ifanc iawn,” meddai Megan wrth drafod ei dylanwadau.

“Dw i ddim yn cofio’r stori gyntaf wnes i ei sgrifennu, dw i wastad wedi bod yn sgrifennu ers oeddwn i’n hogan fach – mae o’n eithaf cliché i’w ddweud, mae’n siŵr. Rhwng tua wyth a 12 oed, roeddwn i’n sgrifennu penodau newydd o nofelau bob wythnos ac wedyn fyswn i’n diflasu ar un a symud ymlaen at un arall. Mae gen i bentwr o focsys yn llawn penodau cyntaf straeon gwirion oeddwn i wedi eu sgrifennu’n hogan fach.”

Mae Megan ei hun yn mwynhau amrywiaeth o lyfrau o bob genre oni bai am thrillers a chyfrolau arswydus.

“Dw i’n dychryn yn hawdd iawn! Fedra i ddim gwylio ffilmiau arswyd na dim byd fel yna… Mae o’n ddihangfa hefyd, darllen.”

Mae’r gwaith o ddarllen ar gyfer dod o hyd i Lyfr y Flwyddyn 2023 wedi dechrau, ac mae’n fraint bod yn rhan o’r broses, meddai Megan.

“Dw i mor ddiolchgar eu bod nhw wedi rhoi’r cyfle i fi. Doeddwn i heb ei ddisgwyl o gwbl, roedd o’n gymaint o sioc. Mae o’n fraint ofnadwy bod ymysg beirniaid eraill sydd mor ffantastig, a dw i’n edrych ymlaen at drafod efo nhw.

“Wrth gwrs, roeddwn i’n disgwyl i’r llyfrau i gyd fod yn wych, ond mae’r safon wedi bod mor anhygoel o uchel.

“Mae pob un yn trafod themâu diddorol a phob un efo llais mor unigryw, mae hi mor wych gweld hynny a gweld lleisiau newydd yn Gymraeg hefyd. Mae hi wastad yn fraint gweld lleisiau newydd yn dod fyny, merched ifanc yn enwedig. Mae hi’n fraint i fi gael bod yn rhan o’r gymuned honno hefyd, y gymuned o ferched ifanc sy’n sgrifennu.

“Mae yna wreiddioldeb rhyfeddol hefyd, ac amrywiaeth ffantastig. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod gennym ni gymaint o gyfoeth o lenyddiaeth yng Nghymru, ond mae’n wych cael gweld hynna’n flynyddol drwy Llyfr y Flwyddyn.”

Dechreuodd Megan astudio am radd mewn Ffarmacoleg Feddygol, gyda’r bwriad o droi at Feddygaeth, ond sylweddolodd ei bod hi angen sgrifennu a dilyn trywydd creadigol.

“Mae hyn yn swnio mor pretentious dw i’n siŵr, ond mae sgrifennu’n teimlo fel rhan mor fawr o bwy ydw i fel person. Dw i ddim yn meddwl fyswn i’n fi os fyswn i ddim yn sgrifennu.

“Yn rhannol, dw i’n licio sgrifennu achos pan ti’n treulio amser ym mhen cymeriad arall sydd ychydig bach yn wahanol i chdi, ti’n dysgu mwy am y byd ac am bobol ac am deimladau. Dw i’n licio sgrifennu am bobol sy’n wahanol i fi a dysgu mwy drwyddyn nhw.

“Pan wnes i sgrifennu tu ôl i’r awyr doeddwn i ddim yn gwybod os fysa yna unrhyw gyhoeddwr Cymraeg eisiau cyhoeddi’r llyfr. Roedd o’n beth eithaf self-indulgent i ddechrau, roeddwn i’n sgrifennu fo achos roedd rhaid i fi gael o allan. Dw i mor ddiolchgar bod pobol wedi gwerthfawrogi’r llyfr – yn enwedig y bobol ifanc sydd wedi cysylltu efo fi’n uniongyrchol yn dweud eu bod nhw wedi’i fwynhau o a’u bod nhw wedi gwerthfawrogi’r ymdriniaeth o’r themâu fel iechyd meddwl a themâu LHDTC+. I gael person ifanc yn dweud eu bod nhw’n teimlo llai unig neu eu bod nhw wedi ffeindio ryw gysur yn y cymeriadau, mae hynna werth y byd i fi.”

Mae Megan bron â gorffen ei llyfr ffuglen wyddonol ffantasïol ar gyfer plant hynaf oedran yr ysgol gynradd.

“Dw i wedi ffeindio fo’n hawdd iawn i fynd yn ôl mewn i feddwl plentyn, achos fy mod i’n sgrifennu gymaint yn yr oed yna dw i’n gallu cofio sut oeddwn i’n mynd ati i sgrifennu a bron fy mod i’n teimlo fel bod y fersiwn plentyn ohona fi’n sgrifennu – dw i ddim yn gwybod os ydy hynna’n beth da neu beidio! Ond roedd o’n brofiad braf, bron fel gweithred o hunanofal – ti’n edrych ar ôl y fersiwn ifanc ohona chdi. Roedd o’n deimlad annwyl.”

Yn ogystal â mwynhau elfennau megis athroniaeth ffeministaidd ac athroniaeth amgylcheddol wrth astudio am ei gradd, mae Megan yn hoff o gerddoriaeth ac yn chwarae’r sacsoffon a’r ffliwt.

“Mae cerddoriaeth yn rhan fawr o’m mywyd i hefyd, dw i’n trio sgrifennu caneuon ond dw i ddim yn gwybod os fyddan nhw byth yn gweld golau dydd. Mae o’n ddihangfa fach arall, a dw i wedi sylweddoli bod cerddoriaeth yn ffordd dda o ymarfer meddwlgarwch a bod yn hollol bresennol. Mae’r rhan fwyaf o bethau dw i’n sgrifennu yn eithaf tawel, efo ychydig bach o elfennau jazzy. Roedd cerddoriaeth fy ewythr yn fwy o electro-roc wedi cael ei ysbrydoli gan gerddoriaeth yr 80au.”

Guava Rockets ydy enw band ei hewythr, Dave Hunter, sy’n byw yn nhalaith Maine yn yr Unol Daleithiau. Mae Megan wedi canu ar draciau Guava Rockets ac mae’n bosib gwrando arni ar yr EP, Where the Sparks Collide, sydd ar y We.

Ynghyd â chrwydro uchelfannau Dyffryn Nantlle gyda’i chi, Mot, mae Megan wrth ei bodd yn pobi popeth, o fara i gacennau.

“Dw i’n pobi pethau lot rhy uchelgeisiol. Dw i’n licio gwneud cacenni tal ac wedyn maen nhw’n chwalu. Os dw i’n teimlo’n isel ryw ddiwrnod, dw i’n pobi rhywbeth ac mae o’n bleser pur.”