Mae cantores opera o’r Rhyl wedi dychwelyd at wreiddiau ei theulu ar gyfer un o’i rhannau diweddaraf.

Bellach yn byw ar gyrion Manceinion, Elin Pritchard sy’n chwarae rhan ‘y Fam’ mewn addasiad teledu Opra Cymru o Un Nos Ola Leuad a fydd i’w weld ar S4C a Channel 4.

Daw teulu ei thad o Fethesda, sef lleoliad y nofel enwog. A gan bod ei thaid yn ffrindiau efo Caradog Prichard, awdur y nofel, roedd cael mynd yno i ffilmio a pherfformio drwy’r Gymraeg yn fraint i’r soprano.