Mae athro o Gaernarfon a ddysgodd ddosbarth o blant yn Llundain i ganu ‘Yma o Hyd’ ar gyfer Jambori’r Urdd yn ddiweddar, wedi derbyn sylw haeddiannol am ei ymdrechion.

Cafodd y fideo o blant ysgol Griffin Primary yn canu anthem Dafydd Iwan gyda’u hathro, Michael Downey, ei rhannu’n eang ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ag yntau’n dysgu yn Llundain ers 2020, mae’r Cofi 29 oed yn teimlo’i fod yn “mynd on am Gymru” yn wythnosol, ac mae’r Ddraig Goch yn chwifio’n falch yn ei ystafell.