Dros y blynyddoedd mae’r cyn-dditectif Iestyn Davies wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod yr heddlu’n cynnig gwasanaethau Cymraeg.

Ar ôl treulio 30 mlynedd gyda Heddlu’r Gogledd, mae Iestyn bellach yn Bencampwr y Gymraeg gyda’r cwmni sy’n gyfrifol am redeg cyrsiau i’r rhai sydd wedi eu dal yn goryrru.