Daeth y cyflwynydd Owain Wyn Evans yn wyneb cyfarwydd i filiynau dros nos pan gwblhaodd ddrymathon 24 awr er mwyn codi arian at Blant Mewn Angen.

Ond ar S4C ddechreuodd gyrfa’r dyn tywydd a’r drymiwr o Rydaman, a hynny bron i ugain mlynedd yn ôl.

Yn ddeunaw oed, cafodd swydd yn cyflwyno newyddion i blant a phobol ifanc ar Ffeil, ac erbyn hyn mae yn cyflwyno ar raglen BBC Breakfast ac ar orsaf Radio 2.