Er bod Chloë Fairweather bellach yn byw yn Llundain, daw yn wreiddiol o bentref Aber-miwl ger y Drenewydd, nepell o Gastell Dolforwyn.

Dying to Divorce, ei ffilm ddiweddaraf, yw enwebiad Prydain yn y categorïau Ffilm Ryngwladol Orau a Ffilm Ddogfen Orau yng ngwobrau’r Oscars 2022.