Mae Mabli Siriol yn ymgyrchydd brwd sy’n angerddol tros hawliau lleiafrifoedd megis ceiswyr lloches, pobol hoyw, a siaradwyr Cymraeg.

Ac mae ganddi hefyd ddiddordeb brwd mewn ffasiwn, ac mae wedi gweithio i gylchgrawn ym Mharis.

Ddechrau’r mis fe gafodd y ferch 31 oed o Gaerdydd  ei hethol yn Gadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith.

Mae eisoes wedi bod yn cyfrannu at waith y mudiad ers blynyddoedd maith.