Mae Alffa newydd ryddhau cân newydd, ‘Closer to Me’, ac mae Elin Owen wrth ei bodd gyda’r “sengl ffrwydrol” sy’n “baradwys pync-roc pwerus”…

Daeth y byd i adnabod Alffa go-iawn pan ryddhawyd eu sengl ‘Gwenwyn’ yn 2018, y gân Gymraeg gyntaf i gyrraedd miliwn o ffrydiau ar Spotify.

Dros dair miliwn a hanner o ffrydiau yn ddiweddarach, ac nid honno yw’r unig sengl sy’n dal sylw gwrandawyr o bob cwr o’r byd.