Mae Tara Bethan wedi bod yn perfformio caneuon pobol eraill ers 30 mlynedd a mwy…

Ond yr wythnos hon mae hi’n rhyddhau un o’i chaneuon ei hun, a hynny am y tro cyntaf erioed.

Fe wnaeth hi ryddhau albwm o’r enw Does neb yn fy nabod i nôl yn 2005, ond cyd-sgwennu ambell gân ar honno y gwnaeth hi.

Ac mae hi’n cyfrif ‘Blerr’, sef y gân mae hi’n rhyddhau dan yr enw ‘Tara Bandito’, fel ei sengl unigol gyntaf go-iawn.