Mae Cerys Hafana yn giamstar ar y delyn deires a’r piano, ac yn hoffi chwarae’r gitâr gyda dim ond un bys.

Ac mae Cerys arall – Cerys Matthews – yn ffan o’i gwaith…

Un o sêr y sîn werin yng Nghymru yw merch 20 oed o Bowys sy’n medru canu, chwarae’r delyn, y piano a’r gitâr.