Gyda’r Cymry yn herio’r Gwyddelod yng ngêm gynta’r Chwe Gwlad yr wythnos nesaf, Alun Rhys Chivers sy’n edrych ar ein gobeithion dan arweiniad hyfforddwr newydd sy’n hen law arni…

Prin y byddai neb wedi dychmygu yn 2019 pan adawodd Warren Gatland ei swydd yn brif hyfforddwr ar dîm rygbi Cymru i ganolbwyntio ar y Llewod, y byddai’n dychwelyd ychydig dros dair blynedd yn ddiweddarach.