Pwy gafodd flwyddyn i’w chofio ar y meysydd chwarae?

Un gafodd flwyddyn i’w chofio yw Sorba Thomas, y pêl-droediwr sy’n gymwys i chwarae i Gymru yn sgil ei fam o Gasnewydd. Ar ddechrau 2021 roedd yn chwarae y tu allan i’r cynghreiriau ac yn gweithio fel sgaffaldiwr ers cael ei ryddhau’n ifanc gan West Ham. Bellach mae’r chwaraewr 23 oed wedi ennill chwe chap dros Gymru, a chael blas ar fod yn aelod o’r garfan genedlaethol yng Nghwpan y Byd yn Qatar.

Prin fod traed Thomas wedi cyffwrdd y ddaear ers iddo symud i Huddersfield fis Ionawr y llynedd. Dim ond 13 mis yn ddiweddarach, ryw wyth munud gafodd e ar y llwyfan rhyngwladol mwyaf ohonyn nhw i gyd. Dywedodd â’i dafod yn ei foch cyn y twrnament mai curo Lloegr allan o Gwpan y Byd oedd y nod, ond yn ystod ei wyth munud ar y cae, Cymru gafodd eu curo allan o’r gystadleuaeth gan Loegr.

Dau fydd yn cwestiynu lle aeth pethau o’i le eleni, serch hynny, yw Rubin Colwill ac Isaak Davies. Roedd ganddyn nhw gyfle euraid i sicrhau eu lle ar yr awyren i Qatar, ond mae trafferthion yr Adar Gleision wedi cael effaith ar y ddau ohonyn nhw i raddau gwahanol. Roedd rhai yn cymharu Colwill ag Aaron Ramsey pan dorrodd e drwodd i’w glwb, ac efallai bod hynny’n anochel gyda’r ddau yn chwarae mewn safleoedd tebyg. Roedd Steve Morison yn gyndyn i’w ddewis, oedd yn ymddangos yn benderfyniad rhyfedd o weld ei berfformiad yn y gwpan yn erbyn Lerpwl. Ond mae ganddo fe gyfle o’r newydd i brofi’i hun i Mark Hudson, rheolwr newydd ei glwb, yn 2023 ar ôl gwneud digon i gyrraedd carfan Cymru. Cafodd Davies gytundeb newydd ym mis Mawrth ar ôl sgorio’i gôl gyntaf i’r clwb ddechrau’r flwyddyn, ond mae’n un arall sydd wedi’i ganfod ei hun yn yr anialwch wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi.

Yn yr un modd â’r dynion, mae tîm merched Cymru wedi bod ar i fyny dros y blynyddoedd diwethaf, ac fe ddaeth yr uchafbwynt eleni wrth iddyn nhw ddod o fewn trwch blewyn i gymhwyso ar gyfer eu twrnament cyntaf erioed. Roedden nhw wedi gallu brolio’u torf fwyaf erioed yn ystod y gemau rhagbrofol – 15,200 yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer eu buddugoliaeth o 1-0 dros Bosnia-Herzegovina diolch i gôl Jess Fishlock – ac roedd cryn edrych ymlaen at y gemau ail gyfle ar ôl iddyn nhw orffen yn ail yn eu grwp. Ond siom gawson nhw yn y pen draw, wrth golli o 2-1 yn erbyn y Swistir. Serch hynny, mae’r cyfan wedi bod yn ddigon i Gemma Grainger gael cynnig cytundeb newydd.

Roedd Ryan Reynolds a Rob McElhenney, perchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam, yn addo pethau mawr pan wnaethon nhw brynu’r clwb yn 2020. Ac maen nhw’n sicr wedi gwireddu hynny, gyda 2022 i’w chofio i’r clwb. Maen nhw wedi bod allan o’r Gynghrair Bêl-droed ers 15 mlynedd bellach, ond daethon nhw o fewn trwch blewyn i ddychwelyd cyn colli o 5-4 yn erbyn Grimsby yn rownd derfynol y gemau ail gyfle. Roedden nhw newydd fod yn Wembley yr wythnos gynt hefyd, gan golli o 1-0 yn erbyn Bromley yn rownd derfynol Tlws yr FA. Mae yna bethau mawr i ddod i Wrecsam, does fawr o amheuaeth am hynny. Ac mae cyfres ddogfen y perchnogion yn sicr wedi rhoi dinas ddiweddaraf Cymru ar fap y byd.

Rygbi

O’r bêl gron i fyd y bêl hirgron, ac un sydd wedi bod yn dwyn y penawdau dros y 12 mis diwethaf yw Jaz Joyce. Serennodd yr asgellwraig yng Nghwpan y Byd wrth i dîm merched Cymru gyrraedd rownd yr wyth olaf cyn colli yn erbyn Seland Newydd, enillwyr y gystadleuaeth. Roedd hi’n un o 12 gafodd gytundebau proffesiynol llawn amser ar ddechrau’r flwyddyn, ond mae hi wedi penderfynu canolbwyntio ar y gêm saith bob ochr am y tro, a bydd ganddi gyfle i serennu eto yn nhîm Prydain yng Nghyfres Saith Bob Ochr y Byd rhwng nawr a mis Mai. Ond mae’n golygu ei bod hi’n debygol na fydd hi ar gael i Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y gwanwyn.

I fyd rygbi’r dynion, ac roedd 2022 yn addo bod yn flwyddyn fawr i un chwaraewr yn arbennig, sef y blaenwr rheng ôl Jac Morgan. Roedd cryn sôn wedi bod y llynedd am ddoniau chwaraewr y Gweilch. Mae e bellach wedi ennill chwe chap dros ei wlad, ar ôl ymddangos yn y crys coch am y tro cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gan ddechrau yn erbyn yr Alban, ac fe ddaeth i’r cae yn eilydd yn erbyn Lloegr a Ffrainc. Ond yn ystod gemau’r hydref y gwnaeth ei farc go-iawn, gan sgorio dau gais yn y golled syfrdanol yn erbyn Georgia. Roedd hynny’n ddigon iddo ennill ei le yn y tîm yn erbyn Awstralia, ac fe ailadroddodd ei gamp. Mae’n golygu bod ganddo fe bedwar cais mewn chwe gêm hyd yn hyn, ac mae’n bosib iawn fod gwell fyth i ddod. Dau arall oedd yn disgwyl adeiladu ar 2021 lwyddiannus eleni oedd yr asgellwr Theo Cabango a’r blaenwr Christ Tshiunza, ond gallen nhw gael eu cyfle o hyd yn 2023. Gwyliwch y gofod…

Criced

Dau oedd wedi addo cryn dipyn yn 2022 yw’r cricedwyr Kiran Carlson a Tegid Phillips. Roedd Carlson yn gapten ar dîm Morgannwg enillodd Gwpan Royal London yn 2021, ac roedd cryn obaith y byddai’n adeiladu ar dymor llwyddiannus ar ôl cael ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn y llynedd. Tra ei fod e wedi sgorio dim ond tri hanner canred yn y Bencampwriaeth, cafodd e ymgyrch yr un mor siomedig yng Nghwpan Royal London, y gystadleuaeth enillodd Morgannwg y tymor diwethaf. Mewn wyth gêm, sgoriodd e ddim ond 248 o rediadau, gyda sgôr uchaf o 64 a chyfartaledd o 35.42 a dau hanner canred. Yn y cyfamser, daeth cytundeb ‘rookie‘ Phillips, sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Glantaf, i ben ar ddiwedd y tymor, a doedd e ddim wedi cael cynnig cytundeb proffesiynol, sy’n golygu y bydd e’n dychwelyd i’r ail dîm ac i dîm Siroedd Cenedlaethol Cymru. Ond cadwch lygad ar dudalennau golwg360 y tymor nesaf, gan y bydd e’n ysgrifennu colofn reolaidd.

Y bobsled a Gemau’r Gymanwlad

A ninnau wedi edrych ar y prif gampau honedig, roedd eleni am fod yn flwyddyn fawr i rai o sêr campau’r gaeaf ac athletwyr hefyd.

Dim ond ers 2020 mae’r taflwr pwysau Adele Nicoll o’r Trallwng wedi bod yn cystadlu yn y bobsled ac roedd ganddi’r uchelgais mawr o gyrraedd Gemau Olympaidd y Gaeaf. Collodd hi gryn dipyn o bwysau er mwyn paratoi i gystadlu yn ei champ newydd, ond bu’n rhaid iddi fodloni ar deithio i’r Gemau yn eilydd yn y pen draw. Un arall yn yr un gamp gollodd allan oedd Mica Moore. Yn fuan cyn y Gemau, tynnodd hi’n ôl ac eglurodd yn ddiweddarach iddi wneud y penderfyniad yn sgil amgylchfyd negyddol i ferched ac i ferched o liw. Mae hi’n dal i fod yn rhedwraig, ac mae hi bellach yn beilot yn y bobsled hefyd gan gystadlu yn y ddwy gamp ar yr un pryd.

Dydy cystadlu mewn dwy gamp ddim yn beth anghyffredin i athletwyr a phara-athletwyr. Un sydd wedi hen arfer â gwneud hynny yw Olivia Breen, un o gapteniaid Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn Birmingham eleni. Enillodd hi’r fedal aur yn annsigwyl yn y ras 100m T37-38. Gorffennodd hi’r ras gyda record bersonol o 12.83 eiliad, gan guro’r ffefryn Sophie Hahn o Loegr (13.09 eiliad). Un arall oedd wedi gobeithio cyrraedd y podiwm yw Jake Heyward, y rhedwr 1500m. Ond bu’n rhaid iddo fodloni ar y pumed safle, er iddo yntau gipio record bersonol gan orffen mewn 3:31:08, ond fe ddaeth ei fedal yn ystod Pencampwriaethau Ewrop, wrth iddo ennill yr arian.

Ralïo

Un sydd wedi hen arfer â’r ail safle yw Elfyn Evans, y gyrrwr ralïo o Ddolgellau sydd newydd lansio cyfres o lwybrau cerdded yn Ninas Mawddwy. Ac yntau wedi dod mor agos dros y blynyddoedd diwethaf wrth frwydro yn erbyn y Ffrancwr Sébastien Ogier, roedd ganddo brif wrthwynebydd newydd eleni. Aeth Kalle Rovenperä, y gyrrwr 22 oed o’r Ffindir, yn ei flaen i gipio Pencampwriaeth y Byd fel yr enillydd ieuengaf erioed, a chafodd Evans dymor siomedig unwaith eto wrth orffen yn bedwerydd. Bu’n rhaid iddo fodloni ar orffen yn ail mewn pedair ras, gyda thair ras wedi dod i ben yn gynnar wrth iddo orfod ymddeol. Ond un gafodd dymor tipyn gwell oedd Osian Pryce o Fachynlleth, enillydd Pencampwriaeth Ralio Prydain. Enillodd e’r tlws yn Swydd Efrog ag un ras yn weddill o’r tymor, y tro cyntaf iddo ei ennill ar ôl gorffen yn ail dair gwaith yn y gorffennol.

Dartiau

Ar ôl ennill y Meistri, yr Uwch Gynghrair a Grand Prix y Byd y llynedd, roedd cryn edrych ymlaen at dymor 2022 i Jonny Clayton, y chwaraewr dartiau o Bontyberem. Ond ar ôl troi at y gamp yn llawn amser a rhoi’r gorau i’w waith yn blastrwr, wnaeth e ddim llwyddo i ailadrodd ei lwyddiannau eleni. Collodd e yn erbyn Michael Smith yn rownd 16 olaf Pencampwriaeth y Byd, rownd gyn-derfynol y Meistri yn erbyn Dave Chisnall, rownd gyn-derfynol yr Uwch Gynghrair yn erbyn Joe Cullen a rownd derfynol Cwpan y Byd gyda Gerwyn Price dros Gymru. A fydd 2023 yn flwyddyn euraid i Gerwyn neu Jonny?

Cadwch lygad am rifyn cynta’r flwyddyn wrth i mi edrych ymlaen at rai o’r llwyddiannau posib ym myd y campau yng Nghymru yn 2023. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd.