Gwilym Dwyfor sy’n ein diweddaru ar lle mae Cymry carfan Rob Page arni erbyn hyn, o ran eu clybiau a’u gobeithion o gael mynd i Gwpan y Byd…

Wedi hoe fer (iawn) mae’r tymor pêl-droed yn ôl a golygon cefnogwyr Cymru eisoes yn troi at Gwpan y Byd ym mis Tachwedd. Er nad oes llawer ers gêm olaf y tymor diwethaf yn Rotterdam, mae dipyn wedi newid ers hynny gyda sawl un o chwaraewyr Cymru’n chwarae mewn cynghrair wahanol neu gyda chlwb newydd.