Roedd y chwiorydd Lona a Noni Gordon, sy’n naw a 12 oed, ymhlith y plant gymerodd ran yng Ngemau Stryd cyntaf erioed yr Urdd yn Roald Dahl Plass yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Er bod disgwyl i’r gemau bara deuddydd, cafodd y cyfan ei wasgu i mewn i ddydd Sul (Mehefin 19) o ganlyniad i’r tywydd. Fe fu Golwg yn siarad â Lona, Noni a’u mam Bethan ar drothwy’r penwythnos, ac roedd cryn edrych ymlaen a pharatoi at y digwyddiad.